Ymgynghoriad y Strategaeth a Ffefrir
Rydym yn ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir gennym i Ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r strategaeth yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer paratoi polisïau, cynigion a dyraniadau defnydd tir manylach yn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo sydd ar y gweill. Hefyd, mae’r strategaeth yn rhoi ein gweledigaeth, ein hamcanion strategol a’r Strategaeth Ofodol ar gyfer datblygiad a thwf Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol. Mae’n gyfres o bolisïau strategol ar gyfer prif flaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Safbwynt yr ymgynghoriad hwn yn y broses o ddisodli’r CDLl
Y strategaeth a ffefrir yw rhan gyntaf y broses o ddisodli CDLl Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n cyfleu diwedd y gwaith o baratoi ac ymgysylltu’r cynllun cyn adneuo, ac felly, dyma’r ‘Ymgynghoriad Cyhoeddus Statudol ar y Cynigion cyn Adneuo’.
Cyflwyno sylwadau am y strategaeth a ffefrir
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud sylwadau ar y strategaeth a ffefrir ar gyfer CDLl Pen-y-bont ar Ogwr yw 5pm ar 8 Tachwedd 2019.
Strategaeth a ffurflen ymateb mae modd eu lawrlwytho
Rydych chi'n gallu cymryd rhan drwy lawrlwytho’r ddogfen strategaeth a’r ffurflen ymateb isod. Anfonwch hi at y manylion cyswllt a nodir.
- Dogfen ymgynghori ar y strategaeth a ffefrir.
- Y ffurflen ymateb ar gyfer dogfen ymgynghori’r strategaeth a ffefrir.
Cysylltu:
Cynllunio Datblygu
Mynd i ddigwyddiad ymgynghori
Yn y digwyddiadau hyn, gallwch siarad â swyddog cynllunio. Fodd bynnag, bydd dal angen i sylwadau ar yr ymgynghoriad gael eu gwneud yn ysgrifenedig o ran yr opsiynau uchod.
Lleoliad | Dyddiad ac amser |
---|---|
Portakabin yn Adeiladau Jennings, Porthcawl |
7 Hydref 12pm tan 6pm 8 Hydref 10am tan 1pm |
Llyfrgell Pil |
14 Hydref 2pm tan 6pm 15 Hydref 10am tan 1pm |
Llyfrgell Pencoed |
21 Hydref 2pm tan 6pm 22 Hydref 10am tan 1pm |
Ystafell Gyfarfod Cyngor Tref Maesteg |
28 hydref 2pm tan 6pm 29 hydref 10am tan 1pm |
Swyddfeydd Dinesig Pen-y-bont ar Ogwr | 4 tan 8 Tachwedd 8.30am tan 5pm |
Mae copïau o’r Ddogfen Ymgynghori ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir hefyd ar gael yn ystod oriau agor swyddfeydd y cyngor a’r llyfrgelloedd.
Dogfennau ategol
Mae’r rhain ar gael mewn fformatau eraill ar gais.