Y Cynllun Datblygu Lleol Newydd Cyn Adneuo (y Strategaeth a Ffefrir)
Y Strategaeth a Ffefrir oedd y cam ymgynghori statudol cyntaf yn y broses o baratoi’r CDLl newydd (CDLlN).
Roedd yn nodi'r ymagwedd fras tuag at raddfa twf a’i leoliad, er mwyn sicrhau y gellid cynllunio datblygiad mewn ffordd gynaliadwy. Roedd yn rhoi’r fframwaith strategol ar gyfer polisïau manylach, cynigion a dyraniadau defnydd tir penodol, a gafodd eu cynnwys wedyn yn y CDLl wedi’i adneuo.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir rhwng 30 Medi 2019 ac 8 Tachwedd 2019.
Daeth 70 o sylwadau ffurfiol i’r ymgynghoriad i law.
Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, cyhoeddodd y Cyngor Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol. Roedd hwn yn nodi’r cyrff gymerodd ran, y rhai a hysbyswyd neu yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod y Cam Cyn-adneuo, gan gynnwys safleoedd, y prif faterion a godwyd a sut y gwnaethant ddylanwadu ar y CDLlN wedi’i adneuo. Roedd hefyd yn cynnwys crynodeb cyffredinol o sylwadau, ymateb yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’r camau a gymerwyd i roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith fod y cynllun yn cael ei baratoi yn unol â’r Cynllun Cynnwys y Gymuned.