Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cytundeb Cyflawni Newydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llunio Cytundeb Cyflawni. Mae paratoi cytundeb cyflawni’n ofyniad allweddol wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Mae’r ddogfen yn rhoi manylion:

  • yr amryw gamau sy'n rhan o'r broses
  • yr amseroedd y mae’r prosesau hyn yn debygol o ddigwydd
  • yr adnoddau y bydd y cyngor yn eu pennu i baratoi’r cynllun
  • y ffordd y mae'r Cyngor yn bwriadu cynnwys y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill yn y gwaith o baratoi CDLl newydd.

Roedd y Cytundeb Cyflawni’n destun cyfnod ymgynghori rhanddeiliad o bedair wythnos o ddydd Llun 30 Ebrill 2018 tan 5pm ar ddydd Gwener 25 Mai 2018. Gellir gweld crynodeb o’r prif faterion a godwyd o’r ymatebion ymgynghori yn Atodiad 3 yr Adroddiad Adolygu terfynol.

Cytunwyd ar y Cytundeb Cyflawni i Gynllun Datblygu Lleol Pen-Y-Bont Ar Ogwr gan Lywodraeth Cymru ar 25 Mehefin 2018.

Ar 13 Mawrth 2024, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) 2018-2033 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cytundeb Cyflawni

Cyfarfod Pwyllgor y Cyngor ym mis Medi

Cyfarfod Pwyllgor y Cyngor ym mis Tachwedd 2021

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Cynllunio Datblygu:

Cyswllt

Cynllunio datblygiad

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643162

Chwilio A i Y