Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol
Fel rhan o’r cam paratoi cyn-adneuo, gofynnwyd i dirfeddianwyr, datblygwyr a’r cyhoedd enwebu ‘Safleoedd Ymgeisiol’ i gael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) Pen-y-bont ar Ogwr.
Y cyfnod ar gyfer cyflwyno safleoedd oedd rhwng y 14eg o Fedi 2018 a’r 9fed o Dachwedd 2018.
Pwrpas gofyn am enwebu safleoedd oedd sicrhau, os yw tir i’w ddatblygu wedi ei ddyrannu yn y Cynllun, fod safleoedd realistig a chyflawnadwy ar gael ar gyfer datblygiad posibl o fewn cyfnod y Cynllun (hyd at 2033).
Nid yw'r Gofrestr Safleoedd Posibl yn awgrymu bod yn well gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol unrhyw safle penodol sydd ynddi o ran ei rinweddau. Nid yw'r Gofrestr hon yn ddogfen ymgynghori gyhoeddus; dim ond datganiad o ffaith yn unig o'r safleoedd a gyflwynwyd yn y cam cyn-adneuo o baratoi'r CDLl newydd. Roedd pob Safle Ymgeisiol a gyflwynwyd yn destun Asesiad Safle Ymgeisiol fel sail i’r casgliad terfynol o ddyraniadau yn y CDLlN fyddai’n cael ei fabwysiadu.
Nid yw’r gofrestr safleoedd hon yn ddogfen ymgynghori ond mae ar gael i’r cyhoedd ei harchwilio:
Dogfennau
- Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol (PDF 34705Kb)