Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol 2013

Cynhaliwyd adolygiad statudol o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) blaenorol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2017. Y cam cyntaf oedd cyhoeddi’r Adroddiad Adolygu Drafft. Roedd hwn yn amodol ar gyfnod o bedair wythnos o ymgynghori â rhanddeiliaid o ddydd Llun 30 Ebrill 2018 tan 5p.m. dydd Gwener 25 Mai 2018. Yn Atodiad 7 yr Adroddiad Adolygu terfynol, gellir gweld crynodeb o’r materion allweddol a godwyd allan o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Cafodd yr ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad eu hystyried a'u hymgorffori yn yr Adroddiad Adolygu terfynol fel oedd yn briodol. Ar sail y dystiolaeth yn yr Adroddiad Adolygu, daethpwyd i'r casgliad y dylid adolygu'r CDLl blaenorol ac y dylai hyn ddilyn trefn adolygu lawn. Mewn geiriau eraill, roedd angen paratoi CDLl Newydd ar sail unigol.

Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg ar y materion a ystyriwyd fel rhan o broses adolygu’r CDLl blaenorol ac mae’n nodi'r newidiadau posibl yr oedd yn debygol y byddai angen eu gwneud i'r cynllun. Mae hefyd yn egluro’r dewisiadau posibl a ystyriwyd ar gyfer adolygu'r CDLl blaenorol.

Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol 2013

Chwilio A i Y