Cynllun Datblygu Lleol newydd Pen-y-bont 2018 to 2033
Cafodd Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033 ei fabwysiadu a daeth yn weithredol ar 13 Mawrth 2024. Mae’n disodli Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig blaenorol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2006-2021.
Y CDLlN yw’r cynllun datblygu (Cynllun) ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a hwn fydd yn sail i benderfyniadau ynglŷn â chynllunio defnydd tir yn yr ardal. Mae’n nodi polisïau allweddol a dyraniadau defnydd tir a fydd yn trefnu dyfodol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn rhoi arweiniad ar gyfer datblygu hyd at 2033.
Bydd dull integredig o fonitro’r modd y rhoddir y Cynllun ar waith a’i effeithiau amgylcheddol sylweddol yn cael ei gynnal yn flynyddol trwy broses yr AMB. Bydd yr AMB cyntaf ar gyfer y CDLlN yn cael ei gyhoeddi a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2025.