Canllawiau dylunio a chanllawiau cynllunio atodol
Mae’r canllaw cynllunio hwn wedi’i greu i roi manylion ar bolisïau a chynigion yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLL) Pen-y-Bont Ar Ogwr. Mae’n llywio’r cyhoedd, ymgeiswyr a datblygwyr wrth iddynt wneud ceisiadau cynllunio.
Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn trafod ystod o faterion gan gynnwys:
- ystyriaethau dylunio manwl
- rhwymedigaethau adran 106
- gofynion gwybodaeth yr ydym yn eu defnyddio i benderfynu ar gais cynllunio
Mae rhai canllawiau cynllunio atodol ar ffurf briffiau datblygu. Gall y rhain ddangos i chi’r weledigaeth ar gyfer cynllunio ardal a’r egwyddorion y dylid eu dilyn wrth ei datblygu.
Nid oes gan y canllaw hwn statws statudol llawn dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. Fodd bynnag, mae ganddo ‘ystyriaeth berthnasol’ wrth benderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio o fewn y pwnc/ardal berthnasol a rhoddir ‘sylw sylweddol’ iddo wrth i ni wneud penderfyniadau cynllunio ac wrth i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gynllunio Cymru wneud penderfyniadau.