Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ailddatblygiad Pafiliwn y Grand Porthcawl

Prosiect ailddatblygu £20m Pafiliwn y Grand

Mae adeilad eiconig Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl wedi derbyn cyllid o £18m gan Lywodraeth y DU i ailddatblygu a gwarchod y tirnod ar lan y dŵr yn dilyn cais llwyddiannus gan y cyngor a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Yn dilyn proses ymgynghori cyhoeddus hirfaith, cafodd y cynlluniau terfynol eu cymeradwyo ar gyfer cynnal gwaith cadwraeth ac atgyweirio ar rai o nodweddion Art Deco eiconig yr adeilad gan gynnwys y tŵr cloc a’r ffenestri lliw, ynghyd ag estyniadau newydd yn cynnwys pafiliwn ben to gwydr gyda golygfeydd tuag at Fôr Hafren, lifft i ymwelwyr, awditoriwm, oriel, cyfleusterau toiled ac ardaloedd cefn tŷ ategol.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwaith adfer ystyriol o do cromennog gwreiddiol yr adeilad, gydag insiwleiddiad newydd, a’r ceiliog tywydd gwreiddiol ar ffurf forol unigryw, yn cael ei ailosod.

Mae gwaith paratoi ar y gweill yn yr adeilad Art Deco 1932 ar hyn o bryd, a gychwynnodd ddechrau fis Mehefin, gan ffurfio rhan hanfodol o’r gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer y prif waith adnewyddu yn ddiweddarach eleni.

Bydd y gwaith o ailddatblygu'r adeilad Rhestredig Gradd II yn mynd i’r afael â'r risgiau presennol i strwythur yr adeilad a hefyd yn bodloni anghenion a dyheadau’r bobl leol am well gwasanaethau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth, a'r rheiny wedi'u hestynnu.

Chwilio A i Y