Y dogfennau rydych chi eu hangen i hawlio budd-daliadau
2. Y dogfennau sylfaenol sydd angen eu darparu
Rhaid i chi ddarparu prawf dogfennol ar eich cyfer chi’ch hun, ac, os oes gennych un, eich partner, o’r canlynol:
- rhifau yswiriant gwladol
- pwy ydych chi
- rhent
- incwm a chyfalaf, gan gynnwys rhai aelodau’r cartref
Os na fydd gennych brawf, fydd dim modd prosesu eich hawliad.
Y dogfennau sydd eu hangen i brofi pwy ydych chi
Fel y gwelwch o’r rhestr isod, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol i brofi pwy ydych chi. Rhaid i chi ddarparu o leiaf dwy eitem o dystiolaeth. Rhaid i o leiaf un ddod o’r rhestr tystiolaeth sylfaenol, a dylai un gynnwys cadarnhad o’ch rhif yswiriant gwladol.
- pasbortau, y mae’n rhaid iddynt fod yn gyfredol ac yn ddilys
- Llythyrau Cydnabod Safonol y Swyddfa Gartref (SAL 1 neu 2)
- trwyddedau gyrru
- tystysgrifau geni, priodas, neu farwolaeth
- tystysgrifau mabwysiadu
- papurau ysgariad neu ddirymiad
- cardiau adnabod cenedlaethol
- cardiau NINO gyda rhif yswiriant gwladol
- ffurflenni cyfraniadau yswiriant gwladol
- cardiau meddygol sy’n cynnwys rhif y GIG
- tystysgrifau cyflogaeth y lluoedd arfog
- dogfennau newid enw
- llythyrau hysbysu budd-dal y wladwriaeth
- tystysgrifau is-gontractwyr
- ffurflenni P45
- ffurflenni E111
- slipiau cyflog
- cytundebau tenantiaeth, llyfrau rhent neu gardiau rhent
- biliau cyfleustodau, fel rhai ar gyfer nwy, trydan a dŵr
- biliau ffôn sefydlog
- cardiau rheilffordd, cardiau teithio a thocynnau bws
- tocynnau tymor
- cardiau debyd neu gredyd banc neu gymdeithas adeiladu
- cardiau tâl siopau
- cyfriflenni/paslyfrau banc neu gymdeithas adeiladu
- tystysgrifau cyfranddaliadau
- polisïau yswiriant bywyd
- cardiau aelodaeth undeb llafur