Y dogfennau rydych chi eu hangen i hawlio budd-daliadau
4. Tystiolaeth o enillion
Os oes gennych chi neu’ch partner enillion, rhaid i ni weld naill ai/neu:
- y slipiau cyflog wythnosol am y pum wythnos diwethaf
- y tri slip cyflog bob pythefnos diwethaf
- y slipiau cyflog misol am y ddau fis diwethaf
Rhaid i’r dystiolaeth gynnwys:
- enwau a chyfeiriadau’r cyflogwyr
- nifer yr oriau a weithiwyd a dros ba gyfnod
- incwm gros ar gyfer y cyfnod talu a’r flwyddyn hyd yn hyn
- didyniadau treth incwm yn y cyfnod talu a’r flwyddyn hyd yn hyn
- cyfraniadau yswiriant gwladol
- cyfraniadau pensiwn galwedigaethol neu bersonol
- y dull o dalu, er enghraifft drwy arian parod, trosglwyddo i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu drwy siec
Os nad oes gennych chi slipiau cyflog, gallwch ofyn i’ch cyflogwr lenwi tystysgrif enillion. Os ydych chi newydd ddechrau gweithio, bydd llythyr gan eich cyflogwr yn nodi eich tâl gros a net yn ddigon, nes y byddwch wedi cael y slipiau cyflog angenrheidiol. Pan gewch chi nhw, mae’n rhaid i chi eu hanfon atom.
Budd-daliadau
Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o bob un o’ch budd-daliadau. Dylai hyn gynnwys y llythyr yn nodi eich hawliad, ac os yw eich budd-dal yn cael ei dalu i gyfrif banc, gallwn ddefnyddio’r gyfriflen banc hefyd.
Cyfalaf, cynilion a chyfrifon banc
Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch holl gyfalaf. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu sydd gennych, yn ogystal â buddsoddiadau eraill fel cyfranddaliadau.
Rhaid darparu cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu gwreiddiol sy’n dangos cofnodion debyd a chredyd am gyfnod o ddau fis cyn cyflwyno’r cais. Nid yw slip yn dangos y balans sy’n weddill yn dderbyniol.
Hefyd, rhaid darparu dogfennau gwreiddiol yn dangos prawf mai chi sy’n berchen ar fuddsoddiadau eraill megis tystysgrifau cyfranddaliadau, cyfriflenni difidend, bondiau, stociau a chyfrannau cwmni buddsoddi.
Os ydych chi’n berchen ar eiddo ar wahân i’r un lle’r ydych chi’n byw, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am werth yr eiddo. Dylech hefyd ddarparu manylion morgeisi neu fenthyciadau sydd wedi’u gwarantu arnynt.
Incwm arall
Rhaid darparu tystiolaeth o’ch incwm i gyd.