Y dogfennau rydych chi eu hangen i hawlio budd-daliadau
3. Tystiolaeth o denantiaeth
Os ydych chi’n talu rhent mae rhaid i ni gael prawf o’ch tenantiaeth. Mae un neu fwy o’r canlynol yn dderbyniol fel prawf tenantiaeth:
- cytundeb eich tenantiaeth
- llythyr gan eich landlord
- eich llyfr rhent
- llythyr gan asiant eich landlord
- prawf o ffurflen rhent
Rhaid i’r holl dystiolaeth sy’n cael ei darparu gynnwys yr holl wybodaeth ganlynol:
- enw a chyfeiriad eich landlord
- enw a chyfeiriad yr asiant rheoli, os oes gennych un
- y dyddiad y dechreuodd eich cytundeb
- swm y rhent sy’n daladwy
- pa wasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn eich rhent, os o gwbl
- y cyfnod talu, boed yn fisol, yn wythnosol neu’n fis calendr