Y dogfennau rydych chi eu hangen i hawlio budd-daliadau
Mae’r rheolau yma’n berthnasol ar gyfer hawlio unrhyw fudd-dal gan y cyngor. Mewn rhai achosion, mae posib sganio dogfennau drwy Fy Nghyfrif. Yn y rhan fwyaf o achosion, ac os gofynnir i chi am y gwreiddiol, bydd angen i chi ddod â’ch dogfennau gyda chi i’r Swyddfeydd Dinesig er mwyn eu dilysu a’u llungopïo. Fe allech chi wneud y canlynol:
- eu postio i’r Adran Budd-daliadau yn y Swyddfeydd Dinesig
- dod â nhw gyda chi i’r Adran Budd-daliadau yn y Swyddfeydd Dinesig
- mynd â nhw i lyfrgell leol, lle bydd negesydd yn eu codi
Cyswllt:
Adran Budd-daliadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost:
benefits@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 643386
Cyfeiriad:
Swyddfeydd Dinesig,
Stryd Angel,
CF31 4WB.