Rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni ar unwaith os yw eich amgylchiadau wedi newid mewn ffordd a allai effeithio ar eich budd-daliadau.
Dywedwch wrthym ni cyn gynted â phosib am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Os na wnewch chi, fe allech chi golli taliadau neu fe allem dalu gormod o fudd-daliadau i chi.
- Os ydych chi’n dweud wrthym ni o fewn mis, byddwn fel arfer yn cyfrifo eich swm newydd o fudd-daliadau o’r dydd Llun ar ôl i’r newid ddigwydd.
- Os byddwch yn rhoi gwybod i ni rywbryd ar ôl hynny a bod y newid yn cynyddu eich taliadau, dim ond o’r dydd Llun ar ôl i chi roi gwybod i ni y gallwn gyfrifo’r budd-daliadau newydd. Byddai hyn yn golygu eich bod chi’n colli arian.
- Os yw’r newid yn lleihau eich budd-daliadau, byddwn bob amser yn cyfrifo eich cyfradd newydd o’r dydd Llun ar ôl i’r newid ddigwydd. Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod i ni, efallai y byddwn yn talu gormod o fudd-daliadau i chi ac y bydd yn rhaid i chi eu talu nhw’n ôl. Ar gyfer gostyngiad yn y dreth gyngor, byddwn yn addasu eich cyfrif treth gyngor, ac fe gewch fil newydd yn dangos bod gennych chi fwy i’w dalu.
Nid yw dweud wrth un o adrannau eraill y Llywodraeth fel Cyllid y Wlad, y Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau yn golygu y byddwn ni’n cael gwybod am unrhyw newidiadau.
Beth i’w ddweud wrthym ni
Dylech ddweud wrthym beth sydd wedi newid a’r dyddiad y digwyddodd y newid hwn, gan roi cymaint o fanylion â phosib. Er enghraifft, byddai’n rhaid i ni wybod enw llawn a dyddiad geni rhywun sydd wedi symud i fyw atoch chi. Dylech hefyd nodi’r dyddiad y gwnaethant symud i fyw atoch chi.
Fel arfer, mae angen rhyw fath o brawf arnom o unrhyw newidiadau, a gallwch uwchlwytho dogfennau wedi’u llungopïo drwy ein ffurflen Fy Nghyfrif. Gallwch lungopïo dogfennau am ddim yn y dderbynfa Budd-daliadau yn y Swyddfeydd Dinesig, neu mewn unrhyw lyfrgell leol. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu’r dogfennau gwreiddiol, ac mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma.
Os nad oes gennych chi unrhyw dystiolaeth, peidiwch ag oedi cyn dweud wrthym ni am y newid. Gallwch ddarparu prawf rywbryd eto pan fydd ar gael.
Rhai newidiadau penodol i roi gwybod i ni amdanyn nhw
Dyma esiamplau o rai o’r pethau y dylech ddweud wrthym ni amdanyn nhw.
Newidiadau mewn budd-daliadau
Er enghraifft, dywedwch wrthym os ydych chi neu’ch partner yn rhoi’r gorau i gael y canlynol:
- cymhorthdal incwm
- lwfans chwilio am waith
- unrhyw fudd-dal arall
Newidiadau mewn incwm
Er enghraifft, dywedwch wrthym os bydd newid i un o’r rhain o safbwynt eich partner neu chi’ch hun:
- cyflogau
- credydau treth
- cynhaliaeth
- pensiwn
- unrhyw incwm arall
Y bobl sy’n byw gyda chi
Er enghraifft, dywedwch wrthym ni:
- os bydd unrhyw un yn symud i mewn atoch chi neu’n symud allan
- os bydd rhywun sy’n byw gyda chi’n dechrau gweithio neu’n stopio gweithio
- os oes newid yn incwm rhywun sy’n byw gyda chi
- os oes plentyn yn cael ei eni
- os oes plentyn yn gadael yr ysgol
Cyfrifon banc, cynilion a buddsoddiadau
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni os oes unrhyw newidiadau yn eich cyfrifon banc, cynilion neu fuddsoddiadau eraill. Er hynny, nid oes angen i chi ddweud wrthym am newidiadau o ddydd i ddydd i’ch cyfrif cyfredol, neu werth cyfranddaliadau’r farchnad stoc.
Tai rhent preifat
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni:
- os yw eich landlord yn cynyddu neu’n lleihau eich rhent
- os yw’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnwys yn eich rhent yn newid
- os yw’r rhan o’r eiddo rydych chi’n byw ynddi’n newid
Newidiadau eraill
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni os byddwch chi:
- yn symud
- yn byw i ffwrdd o’ch cartref
- yn dod yn fyfyriwr neu’n gorffen cwrs
- yn mynd i’r ysbyty
- yn mynd i’r carchar
- yn cael partner o’r un rhyw, os yw’ch partneriaeth wedi’i chofrestru mewn seremoni sifil ai peidio
Nid yw’r uchod yn cynnwys yr holl newidiadau mae angen i ni wybod amdanynt. Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i ni wybod am newid, dywedwch wrthym beth bynnag. Peidiwch â’i adael tan y tro nesaf y byddwch yn llenwi ffurflen hawlio.