Porth Landlord
Mae’r Porth Landlord yn galluogi mynediad at wybodaeth ynghylch hawliadau budd-daliadau tenantiaid, pan gaiff taliad ei wneud yn uniongyrchol i’r landlord neu’r asiant.
- Gweld Budd-daliadau Tai a Thaliadau Tai Dewisol (presennol a hanesyddol)
- Gweld manylion hawliad yr hawliadau lle rydych yn derbyn taliadau.
- Gweld statws hawliadau (gweithredol/ddim yn weithredol/wedi’u gohirio)
- Adrodd Newidiadau i amgylchiadau
- Uwchlwytho tystiolaeth
Mewngofnodi i’r Porth Landlord
Gallwch fynd yn syth i’r porth os oes gennych chi gyfrif eisoes.
Gwneud cais am fynediad i’r Porth Landlord
Os nad oes gennych chi gyfrif, bydd angen ichi wneud cais i gael mynediad.
I wneud hyn, anfonwch e-bost i landlords@bridgend.gov.uk gyda’ch:
- Rhif cyfeirnod landlord
- Enw llawn (ac enw’r cwmni os yw’n berthnasol)
- Cyfeiriad
- Tystiolaeth o bwy ydych chi (e.e. pasbort, trwydded yrru, rhif adnabod Cwmni)
Ar ôl caniatau mynediad, os nad yw cyfrif yn cael ei ddefnyddio am gyfnod o 3 mis, bydd yn cael ei gau. Bydd angen ichi anfon e-bost i landlords@bridgend.gov.uk i wneud cais am fynediad eto.