Lwfans tai lleol
Mae Lwfans Tai Lleol (LTLl) ar gyfer tenantiaid cytundeb preifat. Er ei fod yn helpu gyda chostau tai, mae’n cael ei gyfrif yn wahanol i’r budd-dal a elwir yn ‘fudd-dal tai’. Dim ond i deuluoedd sydd â thri neu fwy o blant dibynnol mae’r budd-dal yma ar gael. Os oes gennych chi ddau o blant sy’n byw gyda chi, gallech wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ar gyfer pwy mae LTLl yn berthnasol
Dylai’r rhan fwyaf o bobl sydd eisiau help gyda chostau tai hawlio credyd cynhwysol. Er hynny, gall lwfans tai lleol fod yn berthnasol ar gyfer:
- rhywun mewn tŷ â chymorth neu dros dro
- rhywun â thri neu fwy o blant
- pensiynwr, sydd chwaith ddim yn byw gydag oedolyn o oedran gweithio
Efallai y caiff pensiynwr sy’n byw gydag oedolyn o oedran gweithio ei gynnwys yn hawliad credyd cynhwysol yr oedolyn hwnnw. Os nad yw’r oedolyn o oedran gweithio’n hawlio credyd cynhwysol, gallai’r pensiynwr hawlio lwfans tai lleol.
Amodau lle nad yw’r LTLl yn berthnasol
Nid yw lwfans tai lleol yn berthnasol os yw:
- eich landlord yn gymdeithas tai
- eich rhent wedi’i gofrestru fel “rhent teg”
- eich tenantiaeth wedi dechrau cyn 1989
- eich tenantiaeth yn cynnwys darparu gofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth ac yn cael ei darparu gan awdurdod lleol, landlord cymdeithasol, elusen neu sefydliad gwirfoddol
- eich llety yn garafan, cartref symudol neu dŷ cwch
- ydych yn hawlio credyd cynhwysol
Efallai nad yw LTLl yn berthnasol os yw eich rhent yn cynnwys swm sylweddol ar gyfer eich cadw a phresenoldeb, fel mewn hostel preifat. Bydd y swyddog rhent annibynnol yn penderfynu ynghylch hyn.
Mwy o wybodaeth am y lwfans tai lleol gan lywodraeth y DU.
Meini prawf ar gyfer cyfrif LTLl
Mae faint o LTLl gewch chi’n dibynnu ar y canlynol:
- pwy sy’n byw gyda chi
- yma mha ardal ydych chi eisiau byw
- eich incwm
- pa gynilion sydd gennych chi
Nifer yr ystafelloedd sydd eu hangen
Mae’r LTLl yn lwfans tai cyfradd safonol. Defnyddir nifer y bobl sy’n byw gyda chi i gyfrif faint o ystafelloedd gwely y bydd rhaid i chi eu cael.
Caniateir un ystafell wely ar gyfer y canlynol:
- pob cwpl sy’n oedolion
- unrhyw oedolyn arall sy’n 16 oed neu’n hŷn
- unrhyw ddau o blant heb ystyried eu rhyw o dan 10 oed
- unrhyw ddau o blant o’r un rhyw dan 16 oed
- unrhyw blentyn arall
Mae nifer yr ystafelleoedd eraill yn cael eu hanwybyddu gan fod gan denantiaid hawl i’r rhain.
Os ydych chi’n rhentu fflat un ystafell mewn tŷ sy’n cael ei rannu, dim ond am gyfradd ystafell a rennir y LTLl fyddwch chi’n gymwys. Defnyddiwch gyfrifiannell hawl i ystafelloedd gwely’r LTLl os ydych chi’n ansicr. Gallwch weld ein cyfraddau ystafell presennol o dan y LTLl yma.
Pobl sengl dan 35 oed
Am ystafell mewn llety sy’n cael ei rannu, mae gan berson sengl dan 35 oed sy’n byw heb unrhyw un yn ddibynnol arno hawl i gyfradd safonol y LTLl. Er hynny, mae hwn yn haelach fel hawl na’r rhent ystafell sengl presennol sy’n gyfyngedig i ddim ond cyfradd ystafell mewn tŷ sy’n cael ei rannu. Mae’r gyfradd newydd wedi’i seilio ar eiddo lle mae gan y tenant unig ddefnydd o un ystafell wely a gall ddefnyddio un neu fwy o’r canlynol:
- ceginau
- ystafelloedd ymolchi
- toiledau
- ystafelloedd addas ar gyfer byw ynddyn nhw
Mae gan bobl ag anabledd difrifol dan 35 oed a phobl ifanc sy’n gadael gofal ac sydd dan 22 oed hawl i’r gyfradd LTLl am eiddo hunangynhwysol un ystafell wely. Hynny yw, dim ond os ydynt yn rhentu eiddo sydd y maint hwnnw o leiaf. Bydd unrhyw un sy’n gymwys am bremiwm anabledd difrifol yn gymwys am y gyfradd un ystafell heb ystyried maint eu llety.
Swm y LTLl dyledus
Ni fu unrhyw newidiadau i’r rheoliadau hawl am fudd-dal tai. Maen nhw dal yn seiliedig ar amgylchiadau ariannol person, a thystiolaeth o gytundeb tenantiaeth dilys.
LTLl yw’r budd-dal mwyaf y gallwch ei gael tuag at eich rhent. Mae’r swm fyddwch yn ei dderbyn yn ddibynnol o hyd ar y canlynol:
- yr arian sydd gennych chi’n dod i mewn bob wythnos
- pa gynilion sydd gennych chi
- pwy arall sy’n byw gyda chi
Os ydi’r cap budd-daliadau yn berthnasol i chi, cofiwch ystyried hyn wrth gyfrif eich hawl am fudd-dal tai.
Dull o dalu
Fel rheol, mae’r LTLl yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r tenant, a chyfrifoldeb y tenant fydd talu rhent i’r landlord. Rhoddir y LTLl drwy drosglwyddiad banc neu siec wedi’i chroesi. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi agor cyfrif banc os nad oes gennych chi un ar hyn o bryd. Mae rhai pobl yn cael anhawster gyda’r cyfrifoldeb yma ac mae help ar gael os oes angen.