Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf
Mae’r Cynllun Cefnogi Tanwydd ar gau ar hyn o bryd.
Fel rhan o becyn cefnogi o fwy na £90m i fynd i’r afael â phwysau uniongyrchol ar gostau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer Cynllun Cefnogi Tanwydd newydd y gaeaf hwn.
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad arian parod untro o £200 i ddarparu cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd dros y gaeaf. Mae'r taliad hwn yn ychwanegol at yr ad-daliad Mesur Ynni a gynigir gan Lywodraeth y DU a'r Taliad Tanwydd Gaeaf sy’n cael ei dalu fel arfer i bensiynwyr.
- Gostyngiad Treth y Cyngor (mae hwn yn ostyngiad prawf modd ar eich cyfrif Treth Gyngor (yn seiliedig ar incwm), sy'n wahanol i fathau eraill o ostyngiadau neu eithriadau fel Gostyngiad Person Sengl)
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr (gan gynnwys hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Ategiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfrifol hefyd am dalu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys, os ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol, yn chwarterol neu i'r rhai sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid.
Os yw deiliad tŷ, neu ei bartner, yn atebol am gostau tanwydd ond nad yw’n cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymwys, gallai fod yn gymwys i gael taliad o hyd os oes ganddo berson cymwys yn byw gydag ef.
- Byw yng nghartref deiliad y tŷ fel ei brif breswylfa; a
- Yn blentyn dibynnol neu'n oedolyn arall sy'n byw gyda deiliad y tŷ, neu ei bartner; ac,
- Mae’n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i'r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Ategiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Person Sengl
- Rydych chi’n gwneud cais i’r cynllun erbyn 5pm ar 28 Chwefror 2023
- Rydych chi’n gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd yn eich eiddo.
- Rydych chi’n derbyn budd-dal cymwys, neu rydych yn byw gyda rhywun sy’n derbyn un o’r budd-daliadau anabledd cymwys; ac
- Mae’r budd-daliadau hyn yn cael eu talu ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.
Cwpl
- Rydych chi neu eich partner yn gwneud cais i’r cynllun erbyn 5pm ar 28 Chwefror 2023.
- Rydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd yn eich eiddo.
- Rydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch yn derbyn budd-dal cymwys, neu rydych yn byw gyda rhywun sy’n derbyn un o’r budd-daliadau anabledd cymwys; ac
- Mae’r budd-daliadau hyn yn cael eu talu ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.
Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn, gallwch gyflwyno hawliad drwy’r wefan hon o 26 Medi 2022 ymlaen.
Rhaid i bob cais ddod i law cyn 5pm ar 28 Chwefror 2023. Bydd y taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud o fis Hydref 2022 ymlaen hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023.
Os ydych chi’n profi caledi ariannol, efallai yr hoffech wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | LLYW.CYMRU.
Bydd angen i chi greu cyfrif trwy ‘Fy Nghyfrif’ os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif ac wedi mewngofnodi, cliciwch ar y tab gwasanaethau ar y bar glas a dewiswch ‘Treth y Cyngor a Budd-daliadau’ o’r gwasanaethau sy'n cael eu harddangos yn y gwaelod. Dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i'r ffurflen ar gyfer Cynllun Cefnogi Tanwydd Llywodraeth Cymru.