Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr

Nod prosiect Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr yw cefnogi lleoliadau gwaith cyflogedig, tymor byr ar draws y fwrdeistref sirol gyda golwg ar sicrhau bod cyfranogwyr yn derbyn swydd barhaol o fewn y busnes sy’n cynnal y lleoliad ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Bydd hyfforddiant i gyfranogwyr hefyd yn cael ei gefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r prosiect hwn ar gau ar hyn o bryd i leoliadau newydd. Serch hynny, rydym yn croesawu Datganiadau o Ddiddordeb gan gyflogwyr posibl i gynnal lleoliadau. Byddwn yn cadw’r rhain ar ffeil yn barod i’w hadolygu os bydd cyllid pellach ar gael ar gyfer y cynllun.

Amodau

  • Bydd y lleoliadau yn golygu gweithio am o leiaf 25 awr yr wythnos a thelir yn ôl yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
  • Ni ddylai’r swyddi gymryd lle swyddi sy’n bodoli eisoes neu rai sydd wedi’u cynllunio; ni ddylent fod yn dymhorol, nac/neu achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith neu gael llai o waith.
  • Bydd angen i gyfnod y lleoliadau gwaith fod dros 12 wythnos a hyd at 24 wythnos.
  • Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer y lleoliadau gwaith cyflogedig fod dros 16 oed ond nid oes uchafswm oedran.
  • Yr isafswm cyflog presennol o 1af Ebrill 2024 ar gyfer y rhai sy'n 21 oed a throsodd yw £11.44; ar gyfer y rhai sydd rhwng 18 a 20 oed yw £8.60 ac ar gyfer y rhai dan 18 yw £6.40 yr awr.  O 1afEbrill 2025 bydd hyn yn cynyddu i £12.21 ar gyfer y rhai sy’n 21 oed a throsodd; £10.00 ar gyfer y rhai sy’n 18 i 20 oed a £7.55 ar gyfer y rhai sydd dan 18.
  • Bydd y cyflogau yn cael eu talu fel ôl-daliad drwy broses hawlio felly bydd angen i’r cwmnïau sy’n gysylltiedig â hyn fod â’r llif arian er mwyn talu allan cyn iddynt gael eu digolledu ac i dalu’r cyfraniadau perthnasol i CThEF cyn cael eu digolledu gan brosiect Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr. 

Yn bennaf, byddwn yn ystyried cwmnïau sy’n cyflogi rhwng 10 a 250 o weithwyr ar hyn o bryd, ac mewn achosion eithriadol byddwn yn ystyried y busnesau hynny sy’n cyflogi llai na 10 (ond dim llai na 4) yn ddibynnol ar fodloni'r amod o gyflogaeth barhaus debygol ar ddiwedd y lleoliad gwaith cyflogedig.  

Ein dyhead yw y bydd cyflogwyr yn gallu cyfweld ystod o wahanol ymgeiswyr a dewis yr un sy’n gweddu orau i’w cwmni gan ddefnyddio eu prosesau arferol.  Fodd bynnag, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio drwy Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn er mwyn i’r ymgeiswyr gael eu cefnogi cyn y cyfweliad, ac os oes gofyn, yn ystod ac wedi’r lleoliad gwaith, fel bod y cyfle hwn yn rhoi’r profiad gorau iddynt yn ystod eu hamser gyda’r cyflogwr sy’n cynnal y lleoliad gwaith. 

Cofrestru diddordeb

Rydym eisiau deall lefel y diddordeb gan gyflogwyr ar draws y fwrdeistref sirol.

Gall cyflogwyr gofrestru eu diddordeb i gynnal lleoliad gwaith drwy ein ffurflen Mynegiant Diddordeb ar-lein:

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw cwblhau’r Mynegiant o Ddiddordeb yma yn gwarantu y byddwch yn gallu cynnal lleoliad gwaith gan ein bod yn disgwyl llawer o ddiddordeb.  

Mae gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddisgresiwn llwyr dros dermau, cymhwysedd a phenderfyniadau'r cynllun Quickstart, ac mae'n cadw’r gallu i newid y meini prawf ar unrhyw adeg.

Darperir y prosiect hwn gan Dîm Cyllid Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.

Partnership logos