Lluosi
Rhaglen sgiliau rhifedd a ariennir gan Lywodraeth y DU yw Lluosi, ac mae ar gael yn hygyrch ac am ddim i oedolion sydd eisiau gwella a datblygu mewn bywyd a gwaith drwy ddatblygu sgiliau rhifedd a chyflawni cymwysterau rhifedd a mathemateg.
Sut i gofrestru
I gofrestru, llenwch ffurflen datgan diddordeb a bydd un o’n hymgynghorwyr yn cysylltu â chi.
Y cymorth sydd ar gael
Mae Lluosi yn cynnig hyfforddiant un-i-un a sesiynau mathemateg i grwpiau bach o oedolion. Mae’r holl sesiynau ar gael ar adegau addas ac mewn lleoliadau addas trwy gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr. Maent yn addas i bobl sy’n awyddus i fagu hyder gyda sgiliau rhifedd pob dydd, neu bobl sy’n gweithio tuag at gymhwyster fel TGAU Mathemateg a Chymhwyso Rhif SHC.
Mae Lluosi yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau trwy gyfrwng ein sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod cymorth rhifedd ar gael i holl drigolion Pen-y-bont ar Ogwr sy’n dymuno uwchsgilio.
Cyrsiau
Mae holl gyrsiau a sesiynau Lluosi yn rhad ac am ddim.
Cyrsiau i Rieni
Mae Lluosi yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a chymorth i rieni sy’n dymuno helpu eu plant i ddysgu mathemateg. Gall rhieni elwa ar sesiynau hyfforddi un-i-un neu sesiynau grŵp yng nghwmni tiwtor sgiliau profiadol. Bydd modd llunio cynllun dysgu a gaiff ei deilwra’n ôl eu hanghenion – cynllun a fydd yn adlewyrchu’r sgiliau mathemateg y mae eu plant yn eu dysgu yn yr ysgol, er mwyn eu grymuso i deimlo’n ddigon hyderus i helpu eu plant gyda’u gwaith cartref.
Rheoli Arian
Mae Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amrywiaeth o sesiynau i helpu trigolion yr ardal i ddysgu am eu materion ariannol personol. Ceir sesiynau’n ymwneud â chyllidebu, bancio, biliau a chredyd, pensiynau, rheoli dyledion a chyfrifiadau ‘gwell eich byd mewn gwaith’. Bydd y sesiynau’n para dwyawr a gellir eu cyflwyno wyneb yn wyneb mewn gwahanol leoliadau ledled Pen-y-bont ar Ogwr, neu ar-lein. Darperir yr holl offer. Gallwch ddewis cymryd rhan mewn un sesiwn neu ym mhob sesiwn – chi piau’r dewis.
Ennill Cymwysterau
Trwy gyfrwng Lluosi, gallwch ennill nifer o gymwysterau rhifedd yn rhad ac am ddim, yn cynnwys: TGAU Mathemateg, Cymhwyso Rhif SHC ac amrywiaeth o gyrsiau mathemateg galwedigaethol. Cewch ddysgu mewn amgylchedd hamddenol braf, naill ai ar ffurf sesiwn un-i-un neu sesiwn grŵp – beth bynnag sydd orau gennych. Mae Lluosi yn cynnig profiad dysgu newydd i oedolion, a gaiff ei deilwra’n ôl eich anghenion gyda sesiynau hyblyg.
Magu hyder gyda Mathemateg
Mae Lluosi yn cynnig amrywiaeth o sesiynau sgiliau meddal heb fynnu fawr ddim ymrwymiad. Gallwch feithrin eich hyder mewn mathemateg, gyda’n tiwtoriaid sgiliau profiadol yn eich cynorthwyo bob cam o’r daith; neu gallwch weithio mor aml neu mor anaml ag y dymunwch gyda’n tiwtoriaid sgiliau, gan drefnu sesiynau ar adegau ac mewn lleoliadau sy’n hwylus i chi. Gallwch ganolbwyntio ar un maes penodol yr hoffech fagu hyder ynddo, gan eich grymuso eich hun.
Gall Lluosi helpu pob oedolyn
Mae cyrsiau penodol ar gael ar gyfer y canlynol (ond nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr):
- Rhieni sy’n awyddus i feithrin eu hyder gyda rhifedd.
- Pobl sy’n dymuno cymryd y cam cyntaf tuag at gymhwyster.
- Rhieni sy’n dymuno gwella’u sgiliau rhifedd er mwyn iddynt allu helpu eu plant, ac ategu eu cynnydd eu hunain.
- Carcharorion a ryddhawyd o’r carchar yn ddiweddar neu garcharorion sydd ar drwydded dros dro.
- Pobl na allant wneud cais am rai swyddi arbennig gan nad ydynt yn meddu ar sgiliau rhifedd digonol.
- Pobl sy’n dymuno uwchsgilio neu ennill cymhwyster er mwyn iddynt allu ymgeisio am ryw swydd arbennig neu gamu ymlaen yn eu gyrfa.
- Pobl sy’n dymuno dysgu sgiliau rhifedd a sgiliau galwedigaethol ar yr un pryd.
- Pobl sy’n dymuno gwella’u sgiliau mathemateg er mwyn iddynt allu rheoli eu harian a deall eu materion ariannol yn well.
- Pobl sy’n gadael, neu sydd newydd adael, y system ofal.
- Pobl ddi-waith neu gyflogedig.
Cysylltu
Os hoffech siarad â’n tîm Lluosi ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu trwy e-bost: