Adolygu eich hawliad am Fudd-daliadau Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Adolygu eich hawliad
Mae angen adolygiad o'ch hawliad am Fudd-dal Tai/Gostyngiad yn y Dreth Gyngor i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol.
Os yw eich hawliad wedi’i ddewis ar gyfer adolygiad, byddwch wedi cael e-bost neu lythyr gydag ‘allwedd mynediad’ er mwyn gallu ei gwblhau.
Bydd angen i ni nodi unrhyw newidiadau perthnasol yn eich amgylchiadau a byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r rhain.
Os yw unrhyw ran o'r wybodaeth a gedwir yn anghywir neu wedi newid, byddwch yn gallu dweud wrthym yn eich adolygiad.
I adolygu eich hawliad, bydd arnoch angen y canlynol:
- Eich enw diwethaf (rhaid i chi nodi'r cyfenw yn union fel y dangosir ar eich e-bost neu lythyr)
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Dyddiad Geni
- Cod post (rhaid i chi ddefnyddio'r cod post yn eich e-bost neu lythyr hyd yn oed os ydych chi wedi symud cyfeiriad)
- Rhif hawlio budd-dal
- Eich allwedd mynediad (Rhaid nodi hwn yn union fel y darperir ar yr e-bost neu'r llythyr a anfonwyd atoch)
Mae'n rhaid i chi gwblhau eich adolygiad o fewn 30 diwrnod iddo gael ei anfon atoch neu bydd eich hawliad yn cael ei atal, ac ni fydd unrhyw daliadau Budd-dal Tai pellach yn cael eu gwneud.
Os na fyddwch yn cwblhau eich adolygiad, bydd eich hawliad am Fudd-dal Tai yn cael ei ganslo a allai arwain at ordaliad. Bydd modd adennill hwn gennych.