Toiledau cyhoeddus
Mae’r wybodaeth am doiledau sydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w chael yn Strategaeth Toiledau’r cyngor.
Gallwch hefyd chwilio am doiledau cyhoeddus lleol ar wefan Toilet Map:
Chwiliwch am doiledau cyhoeddus hygyrch
Gallwch chwilio am doiledau cyhoeddus hygyrch yn y fwrdeistref sirol ar wefan AccessAble:
Toiledau Changing Places
Datblygwyd y system map toiledau Lleoedd Newid gan Gymdeithas Toiledau Prydain mewn partneriaeth ag elusennau Mencap a Pamis. Mae’r system hon yn nodi cyfleusterau toiled mwy ar gyfer unigolion sy’n dioddef o Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDLl) a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
- Cosy Corner, Porthcawl
Cynllun cysur
Mae gennym gynllun cysur ar waith sy’n cynnig grant i fusnesau sy’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau, heb orfod prynu unrhyw nwyddau. Mae’r busnesau canlynol yn cymryd rhan yn y cynllun:
- Gwesty’r Pier, Porthcawl
- Jolly Sailor, Notais
- Ancient Briton, Notais
Cynllun Allwedd Cenedlaethol
Mae’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol (NKS) yn cynnig mynediad annibynnol i bobl anabl i doiledau cyhoeddus dan glo ym mhob cwr o’r wlad. Mae toiledau gyda chloeon RADAR ar gael mewn:
- canolfannau siopa
- tafarndai
- caffis
- siopau adrannol
- gorsafoedd bysiau a threnau
Gellir prynu allweddi drwy’r cynllun NKS. Efallai y bydd angen i chi brofi eich anabledd.