Gwastraff swmpus
Cyn trefnu i’ch eitemau gael eu casglu, meddyliwch a oes modd eu hailddefnyddio. Efallai y bydd y siopau hyn yn casglu’r eitemau nad ydych eu heisiau: Sefydliad Prydeinig y Galon, Emmaus, Ambiwlans Awyr.
Costau casglu
Mae’r gwasanaeth yn costio £30 am hyd at dair eitem. Gall eitemau ychwanegol gael eu casglu am £6.39 yr un, hyd at uchafswm o 15 eitem. Gallwch archebu casgliad gwastraff swmpus dro ar ôl tro.
Trefnu Casgliad
Gallwch archebu casgliad gwastraff swmpus ar-lein. Nodwch eich cod post ac yna dewiswch ‘cais casglu gwastraff swmpus'.
Bydd y contractwyr yn cysylltu â chi dros e-bost neu dros y ffôn i roi gwybod pa ddiwrnod yw eich diwrnod casglu. Peidiwch â rhoi eich gwastraff allan hyd nes eich bod wedi cael gwybod pryd mae eich diwrnod casglu.
Nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar gael i fusnesau neu landlordiaid, gan mai gwastraff masnachol yw hyn.
Rydym yn casglu
Rydym yn casglu amrywiaeth eang o wastraff y cartref, gan gynnwys:
- soffas
- cadeiriau
- byrddau
- carpedi ac isgarped
- llefydd tân pren
- tanau nwy neu drydan
- drysau
- gwelyau, matresi, pen gwely a thinbren
- setiau teledu
- peiriannau golchi a sychu
- oergelloedd a rhewgelloedd
- poptai, microdon, ffwrn a hob
- peiriannau golchi llestri
- ffannau echdynnu
- peiriannau torri gwair
- meinciau a chadeiriau’r ardd
- llinellau sychu dillad cylchol
- cyfrifiaduron, gan gynnwys monitor, gliniadur a bysellfwrdd
- eitemau trydanol bach eraill
Bydd angen i ni asesu’r eitemau canlynol:
- unedau cegin
- arwynebau gweithio
- pren rhydd
- symiau bach o wastraff rhydd - bydd isafswm tâl o £25
Nid ydym yn casglu
Nid ydym yn casglu:
- swîts ystafell ymolchi, gan gynnwys teils
- boeleri cyfunol
- rheiddiaduron
- peipiau glaw
- ffensys
- drysau garej
- gatiau
- lloriau laminedig
- rwbel neu graidd caled
- tanciau pysgod
- tiwbiau goleuo fflworoleuol
- gwastraff gwyrdd
- siediau gardd
Os oes gennych unrhyw rai o’r eitemau hyn, gallwch fynd â nhw i’n canolfannau ailgylchu cymunedol. Os oes angen i chi ddefnyddio fan neu drelar i gludo’r gwastraff, bydd angen i chi archebu trwydded dipio.
Os nad ydych yn gallu mynd â’r eitemau hyn i’r safle ailgylchu eich hun, bydd angen i chi logi sgip neu gontractwr gwastraff preifat.