Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwastraff masnachu a masnachol

Gwastraff a ddaw o’r canlynol yw gwastraff masnachu:

  • safleoedd masnachu a busnes
  • safleoedd ar gyfer chwaraeon, hamdden neu adloniant

Mae busnesau’n gallu defnyddio unrhyw gontractwr casglu gwastraff ag enw da i gael gwared ar eu gwastraff. Rydym ni’n cynnig gwasanaeth am gost i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gennym ni ystod o gynhwysyddion i helpu busnesau i storio eu gwastraff rhwng diwrnodau casglu, gan gynnwys:

  • Biniau olwynion 360 litr
  • Biniau olwynion 660 litr
  • Biniau olwynion 1100 litr
  • Sachau gwastraff masnach

Dewisir y cynhwysydd a gewch chi ar sail y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu a nifer diwrnodau casglu'r wythnos.

Ni chewch chi fynd â gwastraff masnachol i unrhyw un o’r canolfannau ailgylchu gwastraff aelwyd. Dim ond gwastraff aelwydydd y mae'r safleoedd hyn wedi'u trwyddedu i’w dderbyn.

I gael gwybod rhagor am ein gwasanaeth casglu gwastraff masnachol neu i drefnu gwasanaeth casglu ar gyfer eich busnes, cysylltwch â'r canlynol:

Cyswllt

Ffôn: 01656 643643

Dyletswydd gofal busnesau

Mae gan fusnesau rai cyfrifoldebau wrth gael gwared ar wastraff masnachol.

Nid yw casglu gwastraff ac ailgylchu o safle busnes yn cael ei gynnwys fel rhan o ardrethi busnes. Mae gan fusnesau gyfrifoldeb cyfreithiol am reoli'r holl wastraff a gynhyrchir gan y safle a rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel.

Cyflwynwyd y ddyletswydd gofal o dan adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae'n berthnasol i unrhyw fusnes sy'n cynhyrchu, yn cludo, yn storio neu’n gwaredu gwastraff. O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i fusnesau:

  • drefnu bod gwastraff yn cael ei waredu drwy sefydliad rheoli gwastraff awdurdodedig, er enghraifft cwmni cludo gwastraff cofrestredig neu gwmni casglu gwastraff trwyddedig
  • atal gwastraff rhag dianc drwy ei storio'n ddiogel

Rhaid i'r busnes gadw gwaith papur priodol i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hyn. Os na fydd yn gwneud hynny, gall fod yn atebol am ddirwy o £5000 mewn Llys Ynadon. Gall y busnes osgoi hyn drwy dalu Hysbysiad Cosb Benodedig (FPN) o £300.

Er mwyn osgoi dirwy, rhaid i'r busnes gadw copïau o’r canlynol:

  • nodiadau trosglwyddo gwastraff, a/neu
  • copi o drwydded cludydd gwastraff ei gwmni casglu gwastraff am o leiaf dwy flynedd

Rydym yn disgwyl i unrhyw fusnes rydym yn delio ag ef ddarparu tystiolaeth o chwe mis o ddogfennau.

Mae’r Hysbysiad Cosb Benodedig am gadw gwastraff yn anniogel yn £100.

Chwilio A i Y