Gwastraff gardd
Mae’r casgliad gwastraff gardd ar gael i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng misoedd Mawrth a Thachwedd (18 Mawrth ac 15 Tachwedd 2024).
Rhowch eich gwastraff gardd o flaen eich tŷ rhwng 7pm y noson cynt a 7am ar ddiwrnod y casgliad.
Sylwer: Byddwch yn cael gwybod pa ddiwrnod yw’r diwrnod casglu eich gwastraff gardd pan fydd eich sachau’n cael eu dosbarthu.
Cost
Codir ffi flynyddol o £50 fesul cartref, neu £45 i bensiynwyr. Mae pob cartref sy’n cofrestru’n cael dau fag gardd i gasglu a storio gwastraff gardd yn barod ar gyfer y diwrnod casglu.
Gellir prynu bagiau ychwanegol am ffi flynyddol ychwanegol o £6.14. Ni ad-delir y ffi hon.
Cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Gardd
Gallwch bellach gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2024.
I gofrestru, ffoniwch 01656 643643 a dewiswch yr opsiwn gwastraff.
Rydym yn casglu:
- planhigion
- blodau
- chwyn
- glaswellt
- dail
- toriadau gwrychoedd
Nid ydym yn casglu:
- gwastraff cegin
- gwastraff cyffredinol
- pridd
- rwbel
- boncyffion coed
- rhywogaethau ymledol fel canclwm Japan
Gallwch hefyd ailgylchu eich gwastraff gardd am ddim yn eich canolfan ailgylchu agosaf.
Sylwer: Os byddwch yn symud tŷ, gellir symud y casgliad i’ch cyfeiriad newydd os yw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cysylltwch â ni gyda manylion eich cyfeiriad newydd.