Graffiti
Mae graffiti yn aml yn tramgwyddo, yn amharu’n weledol ac yn hagr i’r llygaid. Mae tystiolaeth yn dangos os na chaiff graffiti sylw prydlon bod y broblem yn gwaethygu a bod ardal yn gallu ymddangos fel un nad yw’n cael gofal. Mae hyn yn arwain at ddifrod pellach a fandaliaeth sy’n gallu gwneud i ardal deimlo’n anghroesawus ac yn beryglus.
Rydyn ni’n gyfrifol am gael gwared ar raffiti o eiddo y mae’r cyngor yn berchen arno, ond nid eiddo preifat, gan mai cyfrifoldeb y perchennog neu’r deiliad yw hynny.
Os oes lluniau neu iaith sy’n tramgwyddo y mae’r cyhoedd yn gallu eu gweld, byddwn yn cynnig cymorth i’w glanhau. Bydd hyn yn digwydd ar yr amod bod y perchennog yn rhoi indemniad i ni rhag unrhyw ddifrod a achosir gan ddeunyddiau cawstig.