Gorfodi
Os byddwch yn gollwng sbwriel mewn lle cyhoeddus, byddwch wedi cyflawni trosedd. Efallai y cewch Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 o dan bwerau Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005.
Mae swyddogion gorfodi mewn iwnifform sy’n rhoi sylw i sbwriel a baw cŵn yn goruchwylio’r fwrdeistref sirol. Byddant yn rhoi Hysbysiadau Cosb Penodedig i unrhyw un sy’n gollwng sbwriel ar y stryd, mewn parciau neu mewn gofod cyhoeddus yn fwriadol.
I wneud yn siŵr nad ydych chi’n cael dirwy, rhowch eich sbwriel mewn bin sbwriel bob amser. Os nad oes bin sbwriel gerllaw, ewch â’ch sbwriel gartref gyda chi a chael gwared arno’n briodol.