Diweddariadau casglu gwastraff ac ailgylchu
Mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn digwydd rhwng 7am a 5pm fel rheol.
Os ydych yn credu bod eich casgliad wedi’i fethu, gwiriwch isod am ddiweddariadau a chyngor.
Peidiwch ag adrodd am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm ar eich diwrnod casglu arferol neu os yw wedi’i restru isod fel un a fethwyd. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod y criwiau’n cael digon o amser i gwblhau casgliadau yn eich ardal.
Diweddariadau casglu
Dydd Llun 17 Chwefror
Oherwydd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol, ni fydd y porth ailgylchu a gwastraff ar-lein ar gael dros dro o 5pm hyd 6pm y prynhawn yma.
Dydd Mercher 05 Chwefror
Ardal: Litchard, Merthyr Mawr and Bracla
Math o gasgliad: Casglu ailgylchu
Cyngor: Gadewch yr eitem(au) allan i gael eu casglu. Fe geisiwn gasglu cyn gynted â phosib.
Adrodd am gasgliad a fethwyd
Os na chafodd eich gwastraff neu ailgylchu ei gasglu ac nid yw wedi’i restru uchod, gallwch adrodd am gasgliad a fethwyd ar-lein:
- Nodwch eich cod post a dewiswch ‘Chwilio am eiddo’
- Dewiswch eich cyfeiriad
- Dewiswch ‘Casgliadau ailgylchu’ neu ‘Casgliadau sachau sbwriel’
- Dewiswch ‘Casgliad a fethwyd’
- Nodwch eich enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Dewiswch ‘Cadarnhau’r Cais’ i gwblhau’r cais
- Gadewch eich bagiau/blychau allan ar gyfer eu casglu