Cerbydau wedi’u gadael
Mae gan y cyngor y pŵer i symud neu gael gwared ar gerbydau wedi’u gadael dan Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978. Fodd bynnag, nid oes modd symud cerbydau wedi’u gadael o dir preifat heb ganiatâd gan y tirfeddiannwr.
Sut i wybod os yw cerbyd wedi’i adael
Mae’n bosib bod cerbyd wedi cael ei adael yn yr amgylchiadau canlynol:
- Nid yw wedi’i drethu, heb geidwad cerbyd presennol ar gofnod yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Gwirio ar-lein pa wybodaeth sydd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am gerbyd.
- Mae wedi bod yn segur am gyfnod hir
- Mae difrod sylweddol neu olwg di-raen arno neu nid yw mewn cyflwr addas i’r ffordd
- Mae wedi’i losgi’n helaeth
- Mae un neu fwy o’r platiau rhif ar goll
Sut i adrodd am gerbyd wedi’i adael
Os ydych chi’n meddwl bod cerbyd wedi cael ei adael, cysylltwch â ni. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth i ni â phosib fel y gallwn ddod o hyd i’r cerbyd ac ymdrin ag ef.
Os gallwch, nodwch:
- rif cofrestru’r cerbyd
- gwneuthuriad, model a lliw’r cerbyd
- ym mha le y gallwn ddod o hyd i’r cerbyd
Beth sy’n digwydd nesaf?
Pan rydym wedi dod o hyd i’r cerbyd wedi’i adael, byddwn yn ei dagio ac yn gosod hysbysiad symud. Os na chaiff y cerbyd ei symud o fewn saith niwrnod, neu os na ellir dod o hyd i’r perchennog, byddwn yn ei symud.
Cyswllt
E-bost:
cleanupthecounty@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 643643