Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Casglu sbwriel

Gweld eich diwrnod casglu gwastraff ac ailgylchu.

Rydyn ni’n cynnig casgliad bagiau glas bob pythefnos ar gyfer deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu, drwy ein casgliad ailgylchu o ymyl y ffordd. Ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi, ceir cyfyngiad o ddau fag glas bob pythefnos.

Rhowch eich bagiau mas ar ôl 7pm y noson cyn y casgliad, a chyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad. Peidiwch â rhoi bagiau mas yn gynnar oherwydd gall achosi problemau sbwriel.

Gallai trigolion sy’n rhoi eu bagiau mas y tu allan i’r oriau hyn gael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 neu gael eu herlyn hyd yn oed dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Byddwch yn ofalu wrth roi eich bagiau mas i’w casglu – peidiwch â blocio’r palmant.

Lapiwch eitemau miniog, fel gwydr wedi torri. Os na chaiff y rhain eu lapio’n ofalus, gallant anafu’r gweithredwr gwastraff. Ni ellir ailgylchu Pyrex a dylai fynd mewn bagiau glas hefyd.

 

Gall amseroedd y casgliadau amrywio oherwydd amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld, fel tywydd garw.

Peidiwch â rhoi’r canlynol mewn bagiau gwastraff glas:

  • gwastraff gardd
  • eitemau DIY, gan gynnwys paent, tuniau paent, cerrig, graean, rwbel, gwastraff adeiladwyr neu deils
  • gwastraff clinigol, gan gynnwys gwastraff meddygol neu nodwyddau
  • anifeiliaid marw
  • olew coginio neu injan
  • eitemau trydanol
  • gwastraff masnachol
  • gwastraff peryglus, gan gynnwys toddyddion, cemegion, paent, olew injan, batris, tiwbiau fflworoleuol, bylbiau golau yn cynnwys mercwri, gwenwyn neu abwyd
  • asbestos

I helpu i ddiogelu’r amgylchedd, ailgylchwch gymaint â phosibl.

Archebu bagiau glas

I archebu mwy o fagiau glas, cysylltwch â ni. Gallem eich helpu i ailgylchu mwy fel nad ydych yn rhedeg allan eto yn y dyfodol.

 

Pethau miniog a gwastraff clinigol

Nid ydym yn casglu gwastraff clinigol na theclynnau miniog sy’n cael eu cynhyrchu mewn lleoliad domestig. Cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf os oes arnoch angen cael gwared ar yr eitemau hyn.

Gwneud cais am roi bagiau sbwriel ychwanegol allan bob pythefnos

 Crynodeb o'r bagiau ychwanegol posib yn ôl amgylchiadau'r cartref
Amgylchiadau'r cartref Nifer y bagiau sbwriel ychwanegol y gellir gwneud cais amdanynt
Pump neu lai o breswylwyr. Dim.
Chwech neu saith o breswylwyr. Un.
Wyth neu fwy o breswylwyr. Dau.
Cartrefi gyda thân glo sy’n cynhyrchu llwch fel y brif ffynhonnell o wres. Un.

Er enghraifft, gallai cartref ar gyfer wyth o bobl gyda thân glo sy’n cynhyrchu llwch fel y brif ffynhonnell o wres gael tri bag sbwriel ychwanegol. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiad i ddau fag yn bosib ar gyfer teulu o bump ar gyfartaledd.

Os ydych chi’n cael bagiau ychwanegol ond eu bod yn dod i ben, gofynnwch am ragor ar recyclingandwaste@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y