Ailgylchu mewn fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel
Nid oes gan rai fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel ddigon o le i gasglu ailgylchu o ymyl y ffordd. Gall trigolion mewn eiddo o’r fath ailgylchu eu gwastraff mewn biniau cymunedol yn agos at eu cartrefi.
Beth i’w roi yn eich biniau cymunedol
Bin ailgylchu papur
Ie plîs | Dim diolch |
---|---|
Papur Cardfwrdd Papur newydd Cylchgronau Cyfeirlyfrau ffôn Catalogau Post sothach Amlenni |
Hancesi papur Tyweli papur Rholyn cegin |
Bin ailgylchu gwydr
Golchwch unrhyw wydr cyn ei roi allan i’w gasglu.
Ie plîs | Dim diolch |
---|---|
Poteli gwydr Jariau |
Gwydrau yfed Fasys Powlenni Gwydr ffenestr Bylbiau golau Pyrex |
Bin ailgylchu gwastraff bwyd
Ie plîs | Dim diolch |
---|---|
Bwyd wedi a heb ei goginio Cig Pysgod Esgyrn |
Gwastraff gardd Blodau wedi’u torri |
Bin ailgylchu plastig a chaniau
Ie plîs | Dim diolch |
---|---|
Poteli plastig, gan gynnwys poteli llaeth, diod a siampŵ Cynwysyddion bwyd, gan gynnwys potiau iogwrt, tybiau marjarîn a chwpanau plastig Hambyrddau bwyd nad ydynt yn ddu Bocsys Hambyrddau a chynwysyddion ffoil Tuniau bwyd Caniau diod |
Bagiau plastig, gan gynnwys bagiau siopa, bagiau bara a bagiau bwyd rhewi Ffilm plastig Cling-ffilm Pecynnau, gan gynnwys losin, bisgedi a chreision Ffoil â chefn papur, er enghraifft, pocedi ffoil Deunydd lapio swigod Cesys CD a DVD Polystyren Teganau a phlastig caled arall Potiau planhigion Paent chwistrellu Blychau nwy Aerosolau |