Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ailgylchu a gwastraff dros gyfnod y Nadolig.

Bydd newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod y Nadolig.

  • Bydd casgliadau’n cael eu cwblhau yn ôl yr arfer ar ddydd Llun 30 Rhagfyr a dydd Mawrth 31 Rhagfyr (Nos Galan)
  • Bydd casgliadau sydd i fod i gael eu casglu ar dydd Mercher 01 Ionawr 2025 (dydd Calon) yn digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer.
  • Gall trigolion roi bag gwastraff ychwanegol allan i’w gasglu ar ôl Diwrnod San Steffan.
  • Bydd pob Canolfan Ailgylchu Cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan, ond ar agor fel arfer bob diwrnod arall.
  • Bydd Plan B yn gweithredu mwy o gerbydau ailgylchu ar gyfer casgliadau, yn cynnwys rhagor o gerbydau i gasglu cardfwrdd. Os na chaiff eich deunyddiau eu casglu gyda’ch gwastraff ailgylchu, yna gadewch nhw a chânt eu casglu yn hwyrach ymlaen. Gall y cerbydau ychwanegol hyn edrych yn debyg i gerbydau gwastraff cyffredinol, ond na phoener, bydd eich deunyddiau yn cael eu hailgylchu yr un fath.

Diwrnod Casglu Arferol

Diwrnod Casglu yn y Gwyliau

Dydd Llun 30 Rhagfyr

Dydd Llun 30 Rhagfyr

Dydd Mawrth 31 Rhagfyr

Dydd Mawrth 31 Rhagfyr

Dydd Mercher 1 Ionawr

Dydd Iau 2 Ionawr

Dydd Iau 2 Ionawr

Dydd Gwener 3 Ionawr

Dydd Gwener 3 Ionawr

Dydd Sadwrn 4 Ionawr

Gofynnwn yn garedig ichi roi eich gwastraff ac ailgylchu ar ymyl eich eiddo erbyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad.

Bydd y casgliadau’n dychwelyd i’r diwrnodau arferol ar ddydd Llun 06 Ionawr 2025.

Coed Nadolig naturiol

Gellir ailgylchu coed Nadolig naturiol ym mhob canolfan ailgylchu cymunedol, a gellir hefyd fynd â choed i Ganolfan Tredŵr o 2 Ionawr.

Sicrhewch eich bod yn tynnu'r holl oleuadau ac addurniadau oddi ar eich coed cyn eu hailgylchu.

Beth sy’n bosib/ddim yn bosib ei ailgylchu y Nadolig hwn

Ddim yn siŵr beth sy’n bosib ei ailgylchu a beth sydd ddim yn bosib ei ailgylchu y Nadolig hwn? Dyma ganllaw syml:

Ia, os gwelwch yn dda

Dim diolch

Cardbord

Papur lapio

Gwastraff bwyd

Plastig du

Cardiau Nadolig plaen

Papur seloffen

Hambyrddau ffoil glân

Papur swigod

Jariau a photeli gwydr

Polystyren

Poteli plastig

Cardiau Pasg gyda glitter

Tuniau bwyd a chaniau diod

 

 

Chwilio A i Y