Ysgolion lleol wedi’u heffeithio gan gynlluniau gweithredu diwydiannol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 30 Ionawr 2023
Mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) wedi cyhoeddi pedwar diwrnod o weithredu diwydiannol arfaethedig ar gyfer ei aelodau. Os yw cynlluniau’n mynd rhagddynt, bydd ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn cael eu heffeithio.
Mae streiciau wedi’u cynnig ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher 1 Chwefror 2023
- Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023
- Dydd Mercher 15 Mawrth 2023
- Dydd Iau 16 Mawrth 2023
Bydd ysgolion yn seilio eu penderfyniad i agor neu gau ar eu cyd-destun unigol, lefelau goruchwylio staff ac asesiadau risg.
Bydd pob ysgol yn anelu at hysbysu rhieni os yw’r ysgol yn cau, o leiaf dri diwrnod gwaith cyn pob un o'r diwrnodau a restrir uchod. Fodd bynnag, bydd rhai ysgolion yn penderfynu aros ar agor neu gau ar ddiwrnod y streic arfaethedig.
Bydd disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael bocs bwyd diwrnod cyn y streic arfaethedig os yw’r ysgol yn penderfynu cau ymlaen llaw. Os yw’r pennaeth yn penderfynu cau’r ysgol cyn amser cinio ar ddiwrnod y streic, bydd disgyblion cymwys yn cael bocs bwyd i fynd adref gyda nhw.
Er y bydd trafnidiaeth ysgol yn parhau yn ôl yr arfer ar gyfer disgyblion cymwys (oni bai bod ysgol wedi penderfynu cau cyn diwrnod y gweithredu diwydiannol arfaethedig), dylai rhieni, gofalwyr neu oedolyn cyfrifol arall fod ar gael ar fyr rybudd i gasglu plant o ysgolion cynradd neu ysgolion anghenion ychwanegol. Gall hyn fod oherwydd bydd angen cau ysgol neu grŵp blwyddyn oherwydd lefelau goruchwylio staff.
Rydym yn gobeithio gwneud darpariaethau addas i bob disgybl a'u rhieni neu ofalwyr, fel y gallwn leihau unrhyw darfu posib o ganlyniad i'r streic. Byddwn hefyd yn hysbysu rhieni a gofalwyr am unrhyw ddatblygiadau drwy sianeli cyfathrebu arferol yr ysgolion.
Gallwn eich sicrhau y bydd ystyriaeth lawn yn cael ei gwneud cyn cau ysgol. Bydd yn cynnwys asesiad risg yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys niferoedd staff, goruchwyliaeth, cymarebau disgyblion - athrawon, yn ogystal â diogelwch.
Fel arfer, blaenoriaeth y broses gwneud penderfyniadau fydd llesiant y plant yn yr ysgol. Nhw yw ein prif bryder, a nhw fydd ein prif bryder bob amser. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd yn ystod y cyfnod hwn.
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg