Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion a disgyblion yn serennu ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddiwrnod canlyniadau TGAU

Mae disgyblion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhagori ar ddiwrnod canlyniadau TGAU (dydd Iau 22 Awst 2024) ac mae teuluoedd ac ysgolion yn dathlu ymdrechion y dysgwyr.

Mae llawer o ddisgyblion wedi cyflawni graddau gwych mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol heddiw, gyda nifer yn dewis parhau eu haddysg yn y chweched dosbarth neu’r coleg, ac eraill yn dewis dechrau prentisiaeth neu fentro i’r byd gwaith.

Dywedodd Mr Ashley Howells, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, ”Mae ein disgyblion Blwyddyn 11 wedi ennill graddau rhagorol, ac mae’r rhain yn adlewyrchu eu gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dim ond gyda chefnogaeth ein teuluoedd a chyfraniad ein staff gwych y mae canlyniadau fel hyn yn bosib. Fel bob amser, drwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi gallu gwneud y gorau o gyfleoedd bywyd ein dysgwyr.

 “Tra bydd y mwyafrif o fyfyrwyr Blwyddyn 11 yn parhau â’u hastudiaethau yn ein darpariaeth chweched dosbarth, bydd eraill yn wynebu her hyfforddiant seiliedig ar waith a chyrsiau galwedigaethol. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn ystod rhan nesaf eu taith. Rydym yn gwybod y byddant yn llysgenhadon arbennig i’n hysgol.”

Ychwanegodd Mrs Tracey Wellington, Pennaeth Coleg Cymunedol Y Dderwen (CCYD): “Mae Blwyddyn 11 wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn. Maent yn grŵp anhygoel o bobl ifanc, a mwynheais bob gwasanaeth gyda hwy yn arw. Roeddent bob amser yn ymatebol, yn gwrtais ac yn wydn. Maent wedi bod yn llysgenhadon gwych i CCYD, ac maent wedi cefnogi ei gilydd drwy flynyddoedd anodd a heriol iawn.”

Hoffwn longyfarch y disgyblion ar eu gwaith caled. Mae’n braf gweld llawer o fyfyrwyr yn cael canlyniadau gwych a does dim amheuaeth gen i y bydd dosbarth 2024 yn llwyddiannus yn yr hyn a wnânt yn y dyfodol.

Mae nifer o lwybrau nawr ar agor i bobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, p’un a yw’n chweched dosbarth neu goleg, hyfforddiant neu brentisiaethau, neu fynd i fyd cyflogaeth - braf yw clywed am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl athrawon a staff cefnogol am eu hymrwymiad i sicrhau bod pobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol yn cael y sylfaen i lwyddo.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Addysg a Phobl Ifanc:

Atgoffir disgyblion a theuluoedd fod llawer o gefnogaeth ar gael hefyd, ac fe’u cynghorir i:

  • Siarad â'u hysgol, a all gynnig cyngor a chymorth ynghylch pa opsiynau sydd ar gael.
  • Ymweld â gwefan Gyrfa Cymru, lle mae digon o adnoddau ar gael i helpu.
  • Ystyriwch brentisiaeth lle allwch weithio ochr yn ochr â phobl broffesiynol yn y diwydiant, ennill cyflog a datblygu eich sgiliau – ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.

Chwilio A i Y