Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Heronsbridge yn sicrhau safle arweiniol gyda Buddsoddwyr mewn Pobl

Mae ail-achrediad diweddar o statws platinwm Ysgol Heronsbridge gyda Buddsoddwyr mewn Pobl, a gyflawnwyd am y tro cyntaf yn 2021, wedi pwysleisio sgôr uchaf yr ysgol ledled y wlad ar gyfer y wobr hon yn y sector ysgolion.

Yn canolbwyntio ar lefelau uwch, datgelodd proses ail-achredu Buddsoddwyr mewn Pobl sgorau rhyfeddol o uchel yn yr holl ddangosyddion perthnasol, gan osod Ysgol Heronsbridge ar y blaen o blith ysgolion ledled y DU ar gyfer y wobr hon.

Taflodd yr ail-asesiad a’r adroddiad diweddaraf oleuni ar lu o rinweddau eithriadol yr ysgol, gan gynnwys y diwylliant cadarnhaol o ddatblygiad, arloesedd a chreadigrwydd, yn ogystal â grymusedd y staff i ddefnyddio eu menter eu hunain, ynghyd â brwdfrydedd pobl a buddsoddiad mewn cefnogi gwerthoedd yr ysgol.

Cafwyd y sylwadau canlynol gan griw o rieni o’r ysgol: “Fel rhieni, rydym yn teimlo’n hynod ffodus o fod yn rhan o gymuned Heronsbridge ac rydym yn gwybod bod ein plant yn cael eu haddysgu gan yr aelodau staff gorau posib.   

“Rydym wrth ein boddau fod Heronsbridge wedi cadw ei gwobr blatinwm Buddsoddwyr mewn Pobl eleni.  Ni allwn feddwl am sefydliad sy’n fwy haeddiannol o’r fraint hon ac rydym yn ddiolchgar bod eu gwaith caled cyson wedi cael ei gydnabod unwaith eto.  Mae ymrwymiad ac ymroddiad pawb sy’n gweithio yn Heronsbridge yn amlwg ac o ganlyniad, mae’r plant yn derbyn y gofal a’r addysg orau bosib.

“Nid yn unig y maent yn buddsoddi yn eu staff a’u disgyblion, maent hefyd yn buddsoddi yn yr uned deuluol.  Nid ydym yn gwybod beth fyddai ein hanes heb Heronsbridge, ac mae’r holl rieni rwy’n siarad â hwy yn teimlo’r un peth yn union.  Mae ein teulu wedi newid am byth drwy eu gwaith caled, ac rydym yn gwybod bod ethos “gyda’n gilydd, gallwn” yr ysgol yn bodoli’n gryf ac yn cael ei hyrwyddo gan yr holl aelodau staff a disgyblion fel ei gilydd.”

Dywedodd y Pennaeth, Jeremy Evans: “Yn Heronsbridge, rydym yn frwdfrydig dros gyflawni anghenion ein disgyblion gwych yn llawn, gan sicrhau eu bod wedi cael eu paratoi’n dda ar gyfer pennod nesaf eu bywydau. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn buddsoddi yn ein pobl yn llwyr.

“Mae ein perthynas saith mlynedd ar hugain gyda Buddsoddwyr mewn Pobl, a’r daith drwy wobrau arian, aur a phlatinwm wedi helpu i siapio ein hysgol, gan adnabod cryfderau a meysydd i weithio arnynt ar hyd y blynyddoedd.

“Roeddem wrth ein boddau ein bod wedi cael ein cydnabod fel sefydliad platinwm yn 2021 ac rydym mor falch o gael cadw’r wobr hon eleni.  Mae hyn yn dangos y gwaith caled a’r ymrwymiad mae’r tîm wedi’i fuddsoddi yn yr ysgol yn glir. Mae’r wobr hon yn arwydd o’n hymgysylltiad hirdymor â safonau Buddsoddwyr mewn Pobl yn cyrraedd ei anterth, gan helpu i gymell ein hymrwymiad i weithlu hynod hyfforddedig i gefnogi profiadau dysgu plant yn ein hysgol, gan ddod â gwybodaeth, sgiliau a hwyl i fywyd bob dydd ein cymuned.

“Mae’r ail-achrediad platinwm yn adlewyrchiad gwirioneddol o’n gwerthoedd fel sefydliad, ac mae’n cynrychioli ymrwymiad ac ymdrech pawb sydd (wedi) gweithio yn Heronsbridge - heddiw ac yn y gorffennol.

“Hoffwn ddiolch i bawb am chwarae eu rhan i wneud Heronsbridge yn lle gwych i weithio ac am wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o ddisgyblion a’u teuluoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Addysg a Phobl Ifanc: “Heb amheuaeth, mae Ysgol Heronsbridge yn enghraifft amlwg o arfer dda.  Yn gynharach eleni, derbyniodd yr ysgol adroddiad arolwg rhagorol heb unrhyw argymhellion ac mae hi nawr wedi cyflawni sgôr uchaf y DU yn y sector ysgolion yn ystod yr ail-achrediad diweddar o’i statws platinwm gyda Buddsoddwyr mewn Pobl. 

“Rwy’n rhyfeddu at lefelau cymhelliant, ymrwymiad a brwdfrydedd staff ac uwch dîm rheoli Ysgol Heronsbridge - ymroddiad sy’n cael ei adlewyrchu’n dda yn y wobr haeddiannol hon.  Da iawn bawb, rydych chi’n ased llwyr i’n cymuned.”

Chwilio A i Y