Ysgol Heronsbridge yn cael adroddiad arolygiad eithriadol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 08 Chwefror 2024
Gan ymuno â grŵp bach iawn o ysgolion o bob rhan o Gymru, mae Ysgol Heronsbridge yn un o ddim ond dwy ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i lwyddo i beidio â bod angen unrhyw argymhellion yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn.
Mae’r adroddiad rhagorol Estyn yn tynnu sylw at y llu o gryfderau a ddangoswyd gan yr ysgol, yn amrywio o ymddygiad cadarnhaol disgyblion a’u hagweddau hynod effeithiol at ddysgu, i arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol Ysgol Heronsbridge.
Canmolir staff am eu perthnasoedd gweithio cryf gyda disgyblion, eu rheolaeth eithriadol o wahanol anghenion dysgwyr, yn ogystal â'r defnydd o asesiadau cadarn i fonitro cynnydd fel sail i’r cwricwlwm.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu sut y cynigir cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu sgiliau Cymraeg wrth fynd heibio, gyda’r Gymraeg yn cael ei phlethu trwy gydol y diwrnod ysgol mewn cyfarchion dyddiol, caneuon ac ymadroddion allweddol.
Mae cyfathrebu rhwng y cartref a'r ysgol yn gryfder arall a nodwyd, gyda rhieni neu ofalwyr yn cael eu hysbysu'n dda am gynnydd a chyflawniadau eu plentyn trwy ddyddiaduron o'r cartref i'r ysgol, galwadau ffôn, cyfarfodydd, yn ogystal ag adroddiadau blynyddol manwl.
Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, roedd presenoldeb yn yr ysgol yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan – dywedodd Estyn fod hwn yn gryfder nodedig mewn ysgol lle mae cyfraddau presenoldeb disgyblion yn cael eu heffeithio gan anghenion meddygol cymhleth dysgwyr. Priodolir y llwyddiant hwn i arweinwyr yn olrhain ystod o wybodaeth am ddisgyblion yn fanwl, gan gynnwys presenoldeb ac ymddygiad.
Fel rhan o beilot ar gyfer ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu, mae Ysgol Heronsbridge yn enghraifft ardderchog o’r model hwn gyda’i phrosesau gwella ysgol, ei gwerthoedd, yn ogystal ag ymrwymiad arweinwyr a staff i wella’n barhaus fel sefydliad. Rhoddir blaenoriaeth i ddatblygiad proffesiynol staff, ac mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos ar ei gwaith mewn perthynas â dysgu proffesiynol, ac un arall ar y cwricwlwm, i’w rhannu ar wefan Estyn.
Mae’r Pennaeth, Jeremy Evans, a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Mari Major MBE, wedi cynnig sylw ar y cyd mewn perthynas â’r adroddiad arolygu disglair: “Rydym wrth ein bodd gyda chanfyddiadau Estyn yn ystod ein harolygiad diweddar ac yn teimlo bod yr adroddiad yn gofnod cywir o Ysgol Heronsbridge. Llwyddodd y tîm arolygu i gipio naws 'Together We Can' yn Heronsbridge, a sut mae gwerthoedd ein hysgol wrth wraidd popeth a wnawn.
“Rydym yn arbennig o falch gyda’r gydnabyddiaeth bod ein disgyblion yn hapus, yn ddiogel ac yn mwynhau dod i’r ysgol, a bod gennym staff hynod frwdfrydig ac angerddol sy’n adnabod ac yn deall anghenion disgyblion yn hynod o dda.”
Ychwanegodd Mari: “Fel Cadeirydd Llywodraethwyr Heronsbridge, hoffwn ddiolch i’r pennaeth, yr uwch dîm arweinyddiaeth a’r holl staff, am sicrhau bob amser bod ein disgyblion yn cael eu gosod wrth galon eu gwaith. Gall ein rhieni a’n teuluoedd deimlo’n haeddiannol falch bod eu plentyn yn rhan bwysig o’r gymuned ysgol wych hon.
“Mae’r adroddiad eithriadol hwn wedi’i adeiladu ar sylfaen gadarn o lwyddiant, a byddwn yn parhau i ymdrechu i gynnal y cynnydd rhagorol y mae ein disgyblion yn ei wneud, gan sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y bennod nesaf yn eu bywydau – pryd bynnag, beth bynnag, a lle bynnag y bydd hynny. 'Rhoddwn iddynt adenydd; bydd ein crehyrod yn hedfan'."
Am adroddiad rhagorol gan Estyn sy’n adlewyrchu ymrwymiad, ymroddiad a brwdfrydedd y staff, i gyd yn cyfrannu at lwyddiant gwych yr ysgol. Dylech fod yn hynod o falch! Da iawn bawb, tipyn o gamp!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg