Ysgol gynradd newydd a rhandiroedd yn symud gam ymhellach
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 08 Mai 2024
Mae’r gwaith o ddarparu safle ysgol gynradd newydd sbon a chyfleusterau rhandir cymunedol modern i drigolion Mynydd Cynffig wedi gwneud cynnydd yn ddiweddar.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydweithio’n agos ag athrawon, staff a disgyblion Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn ogystal ag aelodau o Gymdeithas Rhandiroedd Pwllygath i sicrhau y bydd y gymuned leol yn elwa o fuddsoddiadau newydd gwerth miliynau o bunnoedd.
Nod y prosiect yw darparu safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig a fydd yn disodli adeiladau a seilwaith sy’n heneiddio gyda chyfleusterau addysgol modern.
Bydd y safle modern newydd, a fydd yn gallu cefnogi hyd at 420 o blant lleol a chynnig meithrinfa gyda 75 lle yn ychwanegol, yn golygu na fydd yn rhaid i blant gael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth dros dro mwyach, a bydd hyn hefyd yn datrys statws safle hollt blaenorol yr ysgol yn llwyr.
Oherwydd bod angen i’r ysgol newydd gael ei hadeiladu’n rhannol ar dir o eiddo’r cyngor a ddefnyddiwyd ar gyfer rhandiroedd lleol, mae’r cyngor hefyd yn bwriadu creu safle rhandir pwrpasol newydd sbon a fydd yn cynnwys gwell cyfleusterau a mynediad.
Bydd lleoliad newydd y rhandiroedd, a leolir y tu ôl i’r ysgol gynradd newydd, yn cynnwys pridd o ansawdd da a fydd yn sicr o fodloni safonau penodol, ffens ddiogelwch, gwell mynediad i’r plotiau, cyfleusterau parcio a cholomendy newydd.
Yn ogystal, bydd pob un o’r 26 plot yn cynnwys llecyn llawr caled gyda sied newydd, casgen ddŵr a ffens bren newydd gyda mynediad drwy giât. Os gwneir cais amdanynt, mae modd darparu cytiau ieir hefyd.
Bydd cenedlaethau o bobl leol yn cael budd o’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd hwn mewn cyfleusterau newydd am flynyddoedd i ddod. Hoffwn ddiolch i’r athrawon, llywodraethwyr, staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr yn ogystal ag aelodau o Gymdeithas Rhandiroedd Pwllygath am gytuno i weithio gyda ni, a’n helpu ni i sicrhau nad yw’r gymuned ar ei cholled. Er mwyn cydnabod yr anghyfleustra anochel a achosir gan y prosiect hwn, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu safle newydd o’r radd flaenaf i ddeiliaid y rhandiroedd.
Rydym wedi trefnu i’r deiliaid rhandir storio’r holl ddeunyddiau y maent yn awyddus i’w trosglwyddo nes bod y safle newydd yn barod, ac wedi cytuno ar gynllun a fydd yn sicrhau y gall safle gwreiddiol y colomennod gael ei adleoli dros dro. Mae astudiaethau tir wedi’u comisiynu er mwyn paratoi am yr ysgol gynradd newydd, ac mae archwiliadau diogelwch ffyrdd yn cael eu cynnal ar gynllun priffordd dichonadwy. Bydd y rhain yn helpu i lywio unrhyw gais cynllunio terfynol a gyflwynir ar gyfer yr ysgol newydd, ac mae dyluniadau’n cael eu paratoi i gefnogi hyn.
Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau ymgysylltu â disgyblion ysgol ynglŷn â threfniadau teithio llesol, ac ar ôl eu gwerthuso, byddant yn cael eu hystyried a’u hymgorffori yn y llif gwaith ar gyfer y prosiect. Fel y dywedais i ynghynt, diben hyn i gyd yw darparu cyfleusterau newydd i bobl Mynydd Cynffig, nid cael gwared ar rai sy’n bodoli eisoes, ac mae’n wych gweld pawb yn cydweithio i gyflawni’r buddsoddiad newydd hwn er lles trigolion lleol.
Dirprwy Arweinydd, Jane Gebbie