Ysgol Gynradd Newton yn cyrraedd rowndiau terfynol Llundain ar gyfer ‘Cân yr Ysgol DU 2024’
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024
Yn gynharach eleni, cyfansoddodd disgyblion Ysgol Gynradd Newton, Porthcawl, eu cân wreiddiol eu hunain, a mynd i Lundain i gynrychioli Cymru a pherfformio yn rowndiau terfynol ‘Cân yr Ysgol DU 2024’, ar ôl cael eu rhoi ar y rhestr fer yn dilyn dros fil o geisiadau.
Y gystadleuaeth gyfansoddi cân gyntaf o’i math, yn cynnwys ysgolion ledled y DU, ei nod oedd rhoi hwb i hunan-barch, creadigrwydd a dychymyg pobl ifanc drwy’r defnydd o gerddoriaeth a chân.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth gan ‘The School Vision’, sefydliad sy’n cynnig y cyfle i bobl ifanc greu cerddoriaeth a geiriau drwy gân neu gerdd, gyda’r holl elw o’r digwyddiad yn cael ei roddi i ‘The Grief Encounter’ - elusen gofrestredig sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ar ôl marwolaeth rhywun agos.
`Back to the Sixties’ yw’r gân fywiog, lawen a arweiniodd y grŵp talentog o ddisgyblion i Lundain. Dywedodd Henley Jenkins, Athro ac arweinydd y prosiect: “Roedd yn ddiwrnod anhygoel a rhoddodd y disgyblion eu hymdrechion gorau, ond bu iddynt orffen drwch blewyn o’r tri cyntaf. Roedd safon y doniau yn hynod o uchel a chafwyd perfformiad anhygoel gan yr ysgol fuddugol.
“Roedd yr awyrgylch yn y digwyddiad yn gefnogol, anogol, a diolchgar. Rydym yn hynod ddiolchgar o’r cyfle i gymryd rhan ac wedi cychwyn cynllunio at gais blwyddyn nesaf yn barod!”
Ategir y brwdfrydedd hwn gan deimladau’r disgyblion. Dywedodd Ottilie, Disgybl Blwyddyn 6 o’r ysgol: “Rwyf wrth fy modd â’r ffaith fod pawb yn ein grŵp wedi annog ei gilydd. Mwynheais gael cynrychioli ein hysgol a Chymru hefyd!” Ychwanegodd Beth, hefyd yn ddysgwr o Flwyddyn 6: “Hoffais y teimlad o fod pob ysgol yn glên ac yn dymuno’n dda i ni. Fe ganon ni’n dda a llwyddo i ddawnsio’n gywir.”
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Mae cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth cyfansoddi caneuon yn gyflawniad anhygoel! Am arddangosfa arbennig o greadigrwydd!
“Hoffwn ddiolch i’r staff sy’n rhan o wneud y profiad hwn yn bosib i’r dysgwyr; yn eu cynorthwyo i greu atgofion bythgofiadwy gyda’u cyfoedion, ac ar yr un pryd yn gwella’u hunan-hyder a’u hysbrydoli. Mae eu cyfranogiad yn y gystadleuaeth hon yn dangos nad yw ysgol yn ymwneud â beth sy’n digwydd yn y dosbarth yn unig, ond hefyd beth all gynnig i ddisgyblion tu allan i’r dosbarth hefyd.
“Edrychaf ymlaen at glywed cân flwyddyn nesaf yn barod!”
Llun: Disgyblion Ysgol Gynradd Newton yn rowndiau terfynol Llundain ar gyfer ‘Cân yr Ysgol DU 2024’.