Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn derbyn adroddiad arolwg disglair
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Hydref 2024
Yn dilyn arolwg gan Estyn yn gynharach eleni, mae amgylchedd anogol a gofalgar Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair wedi ei amlygu, ynghyd â chryfderau eraill yr ysgol.
Mae’r ysgol wedi derbyn adroddiad arolwg rhagorol, gyda nifer o nodweddion yr ysgol yn cael eu canmol. Mae’r rhinweddau hyn yn amrywio o'r ystyriaeth briodol a roddwyd i'r broses o ddatblygu, dylunio a chynllunio cwricwlwm yr ysgol, i’r perthnasoedd cadarnhaol rhwng disgyblion ac oedolion yn yr ysgol, sydd yn eu tro yn creu amgylchedd diogel a hapus lle rhoddir blaenoriaeth i lesiant disgyblion.
Mae’r athrawon hefyd wedi cael eu canmol am y defnydd medrus o'r awyr agored i gyfoethogi dysg, yn benodol o ran y disgyblion ieuengaf, gydag Estyn yn gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos ar ei darpariaeth o brofiadau dysgu o safon ar gyfer y garfan hon.
Mae cadw gwenyn, tyfu llysiau yn y rhandir, ac yna cynaeafu, gwerthu’r mêl a choginio prydau iach gyda'r llysiau ymhlith rhai o'r ffyrdd y mae athrawon yn cynnig profiadau dysgu gwirioneddol i’r plant.
Dywedodd y Pennaeth, Rachel Azzopardi: “Mae’r llywodraethwyr a'r staff yn hynod falch bod ymrwymiad, talent a gwaith caled cymuned gyfan yr ysgol wedi cael cydnabyddiaeth yn yr arolwg Estyn diweddar.
“Rwyf wrth fy modd gyda chanfyddiadau'r arolwg ac yn teimlo bod yr adroddiad yn adlewyrchu ein hysgol a'i hethos i'r dim.
“Rwy'n arbennig o falch bod ein gweledigaeth ar gyfer dysg a llesiant yn treiddio drwy bob agwedd ar fywyd ysgol wedi'i chydnabod. Disgrifiodd Estyn ein hysgol fel ‘cymuned ofalgar’ sy’n cadarnhau’r pwyslais y mae bob aelod o staff yn ei roi ar greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i bawb. Rydym yn ymfalchïo yn y partneriaethau cryf sydd gennym gyda theuluoedd, y gymuned a’r plwyf, sy’n cyfoethogi diwylliant ein hysgol.”
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Pan mae plant yn hapus ac yn teimlo’n ddiogel, byddant yn ffynnu a dysgu.” Mae’r amgylchedd gofalgar, cefnogol a chynhwysol sydd ar waith yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn darparu'r cyfle gorau i’w disgyblion ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth.
“Hoffwn longyfarch yr ysgol ar ei hadroddiad arolwg gwych, sy’n cydnabod y diwylliant anogol a ddarperir gan y staff, ynghyd â sawl priodoledd arall- yn benodol, y defnydd o’r awyr agored sy’n cynnig cyfleoedd dysgu cyfoethogol a diddorol i’r plant.
“Mae adroddiad arolwg Estyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o ymroddiad ac ymrwymiad y staff i’r disgyblion. Da iawn, bawb!”
Lluniau: Disgyblion yn mwynhau gweithgareddau awyr agored.