Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd Gatholig St Robert yn derbyn canmoliaeth am greu diwylliant meddylgar a chynhwysol

Yn ystod arolwg Estyn yn gynharach eleni, cafodd nifer o gryfderau Ysgol Gynradd Gatholig St Robert eu cydnabod, ac yn arbennig felly ei diwylliant cynhwysol a’i gallu i feithrin ymdeimlad cadarn o berthyn ymysg ei dysgwyr.

Canmolwyd yr ysgol gan arolygwyr Estyn am greu cymuned ddysgu fywiog sy’n adlewyrchu dealltwriaeth o anghenion disgyblion a’r gymuned leol, ac yn ôl arolwg Estyn mae’r arweinwyr a’r staff hefyd yn cynnig cefnogaeth werthfawr ar gyfer iechyd emosiynol ac anghenion cymdeithasol y disgyblion.

Mae staff yn adnabod eu disgyblion a’u teuluoedd yn dda, ac mae lles dysgwyr yn cael ei flaenoriaethu gan yr ysgol.  

Nododd yr arolygwyr fel yr oedd y perthnasoedd positif oedd yn cael eu ffurfio rhwng staff a’r disgyblion yn galluogi’r dysgwyr i ffynnu, ac i ddatblygu’r hyder i ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol gyda’u profiadau dysgu.

Roedd ysbryd o gydweithredu ac ymddiriedaeth yn ymestyn ymhellach i’r berthynas rhwng staff â’r pennaeth yn ogystal.  Gan greu ethos tîm cryf ar draws yr ysgol, mae’r pennaeth wedi’i ganmol am weithio gyda llywodraethwyr, staff, disgyblion a rhieni i sefydlu gweledigaeth glir i’r ysgol, yn seiliedig ar ei gwerthoedd cytunedig.

Meddai’r Pennaeth, Carmen Beveridge: “Rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniadau ac rydym mor hapus bod tîm Estyn wedi cydnabod yr holl waith gwych sy’n mynd rhagddo’n ddyddiol yn Ysgol Gynradd Gatholig St Robert. Fe wnaeth yr adroddiad ddal ethos ein hysgol fel un sy’n darparu amgylchedd ofalgar, cefnogol i’w disgyblion a’u teuluoedd.

“Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod sut y gall staff weithio’n ymroddgar i greu cymuned ddysgu fywiog ac roedden nhw’n edmygu ymddygiad y disgyblion, eu gofal a’u consyrn tuag at ei gilydd ac eraill yn y byd yn ehangach.

“Diolch enfawr i ddisgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr sy’n gwneud St Robert’s yn lle gwirioneddol arbennig.”

Meddai'r Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Dylai pawb yn Ysgol Gynradd Gatholig St Robert fod yn falch iawn o’r ganmoliaeth maent wedi’i derbyn gan arolygwyr Estyn.  Yn bersonol, rwy’n credu mai llwyddiant pennaf ysgol yw gallu meithrin hunan-gred a hunanhyder mewn plentyn.  Unwaith mae hynny wedi’i gyflawni, mae popeth arall yn dilyn.

“Da iawn i’r staff am eu hymrwymiad clir a’u hymroddiad i’r dysgwyr, sy’n cael ei adlewyrchu yn adroddiad Estyn ac sy’n garreg filltir yn llwyddiant yr ysgol.  Dylech chi i gyd fod yn falch iawn gyda’r hyn rydych wedi’i gyflawni.  Llongyfarchiadau!"

Llun: Y Pennaeth, Carmen Beveridge, a Grwpiau Llais y Disgybl yr ysgol.

Chwilio A i Y