Ysgol Gynradd Ffaldau yn derbyn adroddiad gwych gan Estyn
Poster information
Posted on: Dydd Llun 18 Tachwedd 2024
Yn dilyn arolwg gan Estyn yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd Ysgol Gynradd Ffaldau yng Nghwm Garw ganmoliaeth gan arolygwyr am nifer o gryfderau, yn enwedig am ei hethos gofalgar, sy’n ganolog i bopeth a wna’r ysgol.
Tynnodd yr arolygwyr sylw at ddisgwyliadau uchel yr ysgol a’i chanllawiau clir, sy’n annog ymddygiad cadarnhaol gan y disgyblion; technegau cwestiynu effeithiol yr athrawon i sicrhau mewnwelediad i ddealltwriaeth y disgyblion, yn ogystal ag effaith gadarnhaol adborth y staff ar gynnydd y dysgwyr.
Yn yr adroddiad, nodir bod datblygu'r cwricwlwm yn flaenoriaeth i arweinwyr yr ysgol, a’u bod wedi sicrhau bod addysg disgyblion yn bwrpasol ac yn adlewyrchu cyd-destun cymuned Pontycymer.
Wrth dderbyn cwricwlwm cyfoethog sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwerthfawr i ddysgu am Gymru a’r gymuned leol, mae’r disgyblion yn ymwneud â llawer o brosiectau lleol, gan gynnwys eu rhandir newydd, busnesau lleol, a’r gymdeithas treftadaeth er mwyn dysgu am orffennol y cwm.
Amlygodd adroddiad Estyn y ffaith bod darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yr ysgol yn cael ei gwerthfawrogi gan rieni oherwydd ei bod yn cynnig cefnogaeth effeithiol i’r dysgwyr hynny sydd ag anghenion penodol.
Dywedodd Louise Taylor, Pennaeth Ysgol Gynradd Ffaldau: “Rydym yn hynod falch o’n harolygiad Estyn diweddar, sy’n tynnu sylw at waith caled ac ymrwymiad ein staff a’n disgyblion.
“Rydym yn falch bod Estyn wedi gweld y gwaith a wneir i gefnogi llesiant pob disgybl, ac wedi cydnabod ein bod yn ysgol ofalgar gyda disgwyliadau uchel, sy’n canolbwyntio ar anghenion ein disgyblion. Mae hyn yn caniatáu i’n disgyblion fagu hyder, datblygu eu sgiliau a ffynnu fel unigolion drwy gydol eu cyfnod yn Ffaldau.
“Hoffwn ddiolch i’n staff am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u hangerdd wrth sicrhau y gorau posib i’n disgyblion, a diolch i’n teuluoedd a’r gymuned ehangach am eu cefnogaeth barhaus.”
Meddai'r Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Mae Ysgol Gynradd Ffaldau yn ysgol arbennig iawn, gyda disgyblion gweithgar a staff ymroddgar. Mae’n braf gweld bod Estyn wedi nodi a chydnabod hyn.
“Mae’n galonogol gweld bod yr adroddiad yn pwysleisio bod yr ysgol yn un gynhwysol a gofalgar, sy’n sicrhau nad yw anfantais economaidd yn rhwystr i unrhyw ddisgybl rhag cyflawni ei lawn botensial.
“Hoffwn longyfarch pob un sy’n gysylltiedig â’r ysgol am y gydnabyddiaeth wych hon o’u gwaith caled. Gwaith da, bawb!”