Ysgol Gynradd Corneli yn cael ei chanmol mewn arolwg Estyn diweddar
Poster information
Posted on: Dydd Llun 03 Ebrill 2023
Mae arolwg Estyn a gynhaliwyd ym mis Hydref 2022, wedi tynnu sylw at sut mae dysgwyr yn Ysgol Gynradd Corneli yn gwneud cynnydd amlwg ac yn cael eu cefnogi’n llawn gan y staff addysgu.
Yn ystod cyfnod eithrio o ddwy flynedd rhag arolygon Estyn mewn ysgolion ledled Cymru oherwydd y pandemig, datblygodd Estyn ei weithdrefnau arolygu i gefnogi adnewyddu a diwygio mewn addysg yng Nghymru.
Mae adroddiadau arolygu newydd yn amlygu pa mor dda mae darparwyr addysg yn cynorthwyo plentyn i ddysgu, yn hytrach na defnyddio graddau cyfansymiol fel o’r blaen.
Mae fformat adrodd presennol Estyn yn ystyried y categorïau canlynol i farnu ysgol:
- Dim camau dilynol
- Adolygiad Estyn
- Angen gwelliant sylweddol
- Angen mesurau arbennig
Yn ôl arolygwyr Estyn, mae Ysgol Gynradd Corneli yn gwneud cynnydd ac nid oes angen camau dilynol yn yr ysgol.
Ymhlith yr argymhellion mae arolygwyr wedi’u hawgrymu ar gyfer yr ysgol mae darparu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau byw’n annibynnol, yn ogystal â chryfhau prosesau hunanwerthuso i ganolbwyntio’n fwy penodol ar effaith addysgu ar ddysgu.
Bydd yr awdurdod lleol, ochr yn ochr â Chonsortiwm Canolbarth y De, yn cefnogi’r ysgol i greu cynllun gweithredu i ddangos sut fydd yr ysgol yn mynd i'r afael â’r argymhellion.
Am ganlyniad gwych i’r ysgol! Da iawn Ysgol Gynradd Corneli - am gyflawniad arbennig!
Dylwn i hefyd sôn y gofynnwyd i’r ysgol gynhyrchu astudiaeth achos ar ei gwaith mewn perthynas â chefnogi dealltwriaeth y disgyblion o ymwybyddiaeth ariannol i’w rhannu ar wefan Estyn. Am anrhydedd ac yn adlewyrchiad o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn yr ysgol!
Llongyfarchiadau i bawb! Hir y parhaed y gwaith rhagorol!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg