Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd Afon y Felin yn ennill gwobr aur am yr eildro am hybu’r Gymraeg

Gan ddathlu llwyddiant am yr eildro yn dilyn ailasesiad diweddar, mae Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi dal gafael ar ei Gwobr Aur Cymraeg Campus, sef gwobr a chwenychir yn fawr ymhlith ysgolion sy’n gysylltiedig â’r Siarter Iaith Cymraeg Campus (menter i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru mewn ysgolion).

Mae llwyddiant yr ysgol wedi arwain at rannu’r arferion da gyda mwy na deg o ysgolion eraill, yn cynnwys ysgolion y tu allan i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi cynorthwyo’r lleoliadau hyn i ennill gwobrau efydd, arian neu aur am eu hymdrechion i ddilyn y Siarter Gymraeg a gynigir gan y Siarter Iaith Cymraeg Campus.

Yn sgil eu hymdrechion i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw mewn lleoliad cynradd cyfrwng Saesneg, canmolwyd staff Ysgol Gynradd Afon y Felin gan yr aseswyr am ddefnyddio strategaethau addysgu a oedd yn annog y plant i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol oddi mewn ac oddi allan i’r ystafell ddosbarth.

Hefyd, mae toreth o brofiadau a gynigiwyd i’r plant wedi ennyn eu brwdfrydedd dros iaith a diwylliant Cymru, yn cynnwys perfformiad byw gyda Bronwen Lewis, y canwr a’r cyflwynwr o Gymru; ymweld â’r Big Pit a Stadiwm Principality; a gweithio ochr yn ochr â Connor Allen, a arferai fod yn Fardd Plant Cymru, lle’r aeth ati i rannu manylion am ei gefndir Jamaicaidd gan dynnu sylw at yr amrywiaeth ddiwylliannol eang a geir yng Nghymru. Y llynedd, llwyddodd yr ysgol i gyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd ac mae’r disgyblion yn edrych ymlaen at gystadlu drachefn ym Margam yn 2025.

Mae’r profiadau hyn wedi cael dylanwad cadarnhaol ar y dysgwyr, gan ddangos iddynt sut y gallant barhau i ddysgu Cymraeg a dysgu am Gymru. Yn ôl Sophia, un o ddisgyblion yr ysgol: “Fe wnes i fwynhau gwisgo fel Cymraes Cŵl ar Ddydd Miwsig Cymru a thynnu hun-lun gyda Bronwen Lewis. Mae hi wedi fy ysbrydoli i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg!” Ac medd Leo, dysgwr arall: “Fe wnes i fwynhau cwrdd â Jac Morgan yn Stadiwm Principality a gallu siarad Cymraeg gydag e – atgof bythgofiadwy i mi.”

Medd Denise Jones, Pennaeth Dros Dro yr Ysgol: “Fy ysbrydoliaeth i bob amser yw John Mason, fy hen athro yn yr ysgol gynradd – llwyddodd i sicrhau bod y Gymraeg yn hwyl ac yn ddiddorol, ac roeddwn i eisiau defnyddio’r un dull gyda’n plant ni. Fel y gwelwch, mae wedi bod yn llwyddiant mawr.”

“Mae ein partneriaethau gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill – fel Ysgol y Ferch o’r Sgêr ac Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd – yn agwedd bwysig arall ar ein llwyddiant. Mae’r ysgolion hyn wedi bod yn hollbwysig o ran datblygu llafaredd y plant, creu cyfeillgarwch newydd a sefydlu trefniant cydweithio llwyddiannus rhwng ysgolion.”

Yn ôl y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Gall Ysgol Gynradd Afon y Felin ymfalchïo’n fawr yn y llwyddiant gwych hwn! Nid tasg hawdd o gwbl yw ennill Gwobr Aur Cymraeg Campus am yr eildro, ac mae’n adlewyrchu staff addysgu creadigol, eu hymrwymiad i’r dysgwyr a’u hymrwymiad i iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.

“Llongyfarchiadau fil i bawb!”

Chwilio A i Y