Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i ennill gwobr aur am lwyddiant gyda’r Gymraeg
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 16 Awst 2024
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yw'r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn y Wobr Aur Siarter Iaith uchel ei bri. Mae’r ysgol wedi ennill y wobr am ei hymdrechion yn dilyn y Siarter Iaith , rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer lleoliadau cyfrwng Cymraeg i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
Mae'r ysgol wedi gweithio’n galed i ddenu diddordeb rhieni a sicrhau bod y Gymraeg yn treiddio drwy’r gymuned ehangach drwy amrywiaeth o brosiectau dan arweinyddiaeth ei Chyngor Cymraeg, sef grŵp o ddysgwyr sydd wedi ymrwymo i'r fenter, yn bennaf.
Wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Coety ar sawl achlysur, mae Cyngor Cymraeg Ysgol Gymraeg Bro Ogwr wedi cefnogi disgyblion i ddatblygu sgiliau darllen a gemau iard cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, ar y cyd gyda’i Gyngor Ysgol ei hun, darparodd gaffi Cymraeg i rieni, ac mae dysgwyr Blwyddyn 6 wedi arddangos eu sgiliau iaith Gymraeg a pherfformio, drwy gymryd rhan yn y broses ffilmio ar gyfer y rhaglen Gymraeg, Tekkers.
Dywedodd Sophia Floyd, aelod Blwyddyn 4 o Gyngor Cymraeg yr ysgol: “Mae cael y wobr aur yn beth cyffrous ac yn gwneud i ni deimlo’n hapus iawn. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn drwy’r flwyddyn.”
Rwy’n hynod o falch o’n gwaith i hyrwyddo’r iaith Gymraeg dros y tair blynedd ddiwethaf.
Rydym mor falch o ennill y wobr aur a gobeithiwn barhau â’n gwaith.
Miss Evans, yr arweinydd Siarter Iaith
Gan gefnogi hyn, dywedodd y Pennaeth, Mrs Jayne: “Fel ysgol, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i greu naws Cymraeg o fewn yr ysgol, hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gymuned a denu diddordeb ein rhieni. Hoffwn longyfarch yr holl staff a disgyblion ar eu llwyddiant a diolch iddynt am eu hymdrechioon.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid: “Mae hwn yn gyflawniad gwych i Ysgol Gymraeg Bro Ogwr! Mae’r ysgol wedi derbyn y ganmoliaeth uchaf gan y Siarter Iaith am ddilyn y siarter yn llwyddiannus, a dylai deimlo’n falch iawn.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n hysgolion am ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth, gan annog ein cymunedau ehangach i wneud yr un peth!”