Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gyfun Porthcawl yn dathlu blaenoriaethu iechyd meddwl disgyblion

Mae Ysgol Gyfun Porthcawl wedi derbyn Gwobr Aur Canolfan Ragoriaeth Carnegie am Iechyd Meddwl mewn Ysgolion oherwydd ei darpariaeth llesiant rhagorol.

Sefydlwyd y wobr boblogaidd sydd yn cael ei chydnabod drwy’r DU gyfan, sawl blwyddyn yn ôl, drwy gydweithrediad rhwng Canolfan Ragoriaeth Carnegie dros Iechyd Meddwl mewn Ysgolion, rhan o Brifysgol Beckett Leeds, a menter gymdeithasol, Minds Ahead.

Gyda’r ysgol gyfan yn cefnogi iechyd meddwl staff a disgyblion, cafodd Ysgol Gyfun Porthcawl ei hasesu yn erbyn wyth cymhwysedd, yn amrywio o arweinyddiaeth a strategaeth, cefnogaeth i ddisgyblion a staff, i weithio gydag asiantaethau allanol.

Kath Owens, Pennaeth Cynorthwyol: Y Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfathrebu a arweiniodd y fenter, ac mae wedi tynnu sylw at rai o’r strategaethau llwyddiannus a weithredwyd gan yr ysgol.  Dywedodd:”Mae ‘Y Prosiect Llewyrchus’, ‘Rhaglen Camau’r Cymoedd’ a ‘Chefnogaeth Straen Arholiad SHINE’, i gyd yn rhaglenni sydd wedi arfogi disgyblion â strategaethau i ddatblygu gwytnwch, ac i wynebu heriau yn fwy hyderus.” 

Yn ogystal, mae gan yr ysgol raglen llysgenhadon llesiant, sydd ar ei phedwaredd flwyddyn, gyda llysgenhadon llesiant dynodedig wedi eu hyfforddi mewn iechyd meddwl a llesiant meddyliol.  Mae’r llysgenhadon wedi ymgymryd â chasgliad o brosiectau, gan gynnwys rhai i godi arian, i ddatblygu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, a sefydlu ‘Dydd Mercher Llesiant’ ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 yn ystod amser cinio.

Fel y dywedodd Ms Owens. “Rydym yn hynod falch o waith ein llysgenhadon llesiant, a’u hymroddiad i hyrwyddo llesiant meddyliol cadarnhaol ar draws yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.”

Dywedodd un disgybl: “Fel llysgennad llesiant Ysgol Gyfun Porthcawl, rwyf wedi cael cipolwg gwerthfawr ar iechyd meddwl a sut i helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd.  Cododd llawer o gyfleoedd, ac yn awr mae gennyf sgiliau a fydd yn ddefnyddiol am oes. Rwyf wedi tyfu’n bersonol, ac mae gwybod fy mod wedi cael dylanwad cadarnhaol o fewn y gymuned yn rhoi ymdeimlad o foddhad wrth helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd.”

Dywedodd y Prifathro, Mr Mike Stephens: “Mae iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn greiddiol i Ysgol Gyfun Porthcawl.  Rydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar iechyd emosiynol a gofalu am ein gilydd ag yr ydym ar lwyddiant academaidd, ac mae’r wobr hon wedi bod yn gymorth mawr i ni fel ysgol i symud ymlaen â’n blaenoriaethau i lunio a gwella popeth yn ymwneud â llesiant. 

“Rydym wedi ymrwymo i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth strategol ac i ddatblygu diwylliant sy’n hyrwyddo llesiant meddyliol i bawb.  Mae iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn cael sylw blaenllaw yn ein Cynllun Gwella’r Ysgol, ac rwy’n falch o ddweud fod gennym gefnogaeth anhygoel yr ysgol gyfan, yn cynnwys disgyblion, staff, llywodraethwyr a sawl corff proffesiynol.  Byddwn yn derbyn y wobr hon am dair blynedd, ac rydym am barhau i ddatblygu yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol i bawb o fewn cymuned yr ysgol.”

Dywedoddy Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Addysg a Phobl Ifanc: “Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Porthcawl!  

”Mae’n amlwg fod iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn greiddiol i’r ysgol, ac mae’n wych fod hyn wedi cael ei gydnabod wrth dderbyn Gwobr Aur Canolfan Ragoriaeth Carnegie am Iechyd Meddwl mewn Ysgolion.

”Mae’r awdurdod lleol yn cydnabod y cyswllt uniongyrchol rhwng iechyd meddwl cadarnhaol mewn ysgolion â chanlyniadau addysgol llwyddiannus, ac mae’n amlwg fod Ysgol Gyfun Porthcawl yn sicrhau’r canlyniadau gorau posib, ar lefel academaidd a phersonol, i’r disgyblion.

“Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd strategaethau cefnogi iechyd meddwl yr ysgol yn parhau i dyfu o nerth i nerth. Unwaith eto, da iawn, bawb!”

Llun: Y Prifathro, Mike Stephens (pellaf ar y dde), gyda staff a disgyblion o Ysgol Gyfun Porthcawl, gyda Gwobr Aur Canolfan Ragoriaeth Carnegie am Iechyd Meddwl mewn Ysgolion.

Chwilio A i Y