Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn hyrwyddo pêl-droed merched
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 28 Mai 2024
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, sydd eisoes yn taflu goleuni ar bêl-droed merched drwy lwyddiant y cyn-ddisgybl, Tianna Teisar, sy’n chwarae pêl-droed i dîm dan 19 Cymru a thîm merched Dinas Bryste, yn parhau i annog mwy o fyfyrwyr benywaidd i lwyddo yn y gêm.
Y mis diwethaf, mewn ymgais i ysbrydoli dysgwyr presennol, gwahoddwyd Tianna i gynnal sesiwn o hyfforddiant i dîm pêl-droed merched Blwyddyn 7 ac 8 yr ysgol. Dywedodd Tianna: “Synnais at y nifer o ferched a gymrodd ran yn y sesiwn; pan oeddwn i yn yr ysgol, dim ond tair ohonom oedd yn chwarae pêl-droed, bellach mae tua 20 o ferched. Mae’n grêt gweld sut mae’r gêm wedi datblygu yn nhermau cydraddoldeb.”
Yn ôl Cymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW), pêl-droed merched yw’r gêm sy’n tyfu cyflymaf ar draws Ewrop ac sy’n cynrychioli’r maes twf mwyaf ym mhêl-droed Cymru. Mae Strategaeth Pêl-droed Menywod a Merched 2021 - 2026 yr FAW yn amlygu cynlluniau i ddatblygu pêl-droed menywod a merched drwy ddyblu buddsoddiad yn y gêm, ymhlith tactegau eraill - gan anelu at gael 20,000 o fenywod a merched yn chwarae erbyn 2026.
Roedd y merched o dîm pêl-droed yr ysgol i gyd yn cytuno bod ymweliad Tianna yn un ysbrydoledig, gan eu galluogi i gwrdd â rhywun sydd wedi arwain y ffordd i’r lle y dymunent hwy fod yn y gêm. Dywedodd un o’r dysgwyr: “Mae Tianna yn ffigwr ysbrydoledig i bobl ifanc fel ni, yn arbennig gan ei bod wedi dod o’r un ysgol a chanddi’r un cefndir â ni.”
Roedd y disgyblion yn amlwg yn uniaethu â Tianna, a ddangosodd ei bod yn bosibl anelu at nodau personol, waeth beth yw’r rheiny, a’u cyflawni. Dywedodd disgybl arall: “Mae hi wedi dangos i ni y gallwch lwyddo os ydych chi’n mynd amdani ac yn gweithio’n galed.”
Dywedodd y Pennaeth, Meurig Jones: “Roedd yn bleser gennym gael croesawu Tianna yn ôl i’r ysgol! Mae gweld merch ifanc o Langynwyd yn llwyddo mewn pêl-droed yn achos dathlu gwerth chweil! Gobeithiwn y bydd ymweliad Tianna yn ysbrydoli rhai o’r merched i barhau i weithio’n galed a llwyddo ym mha bynnag faes o’u dewis!”
Mae’n wych bod chwaraeon sy’n draddodiadol wedi’u dominyddu gan ddynion, fel pêl-droed, yn dod yn fwyfwy hygyrch i bawb. Llongyfarchiadau i’r ysgol am ddiddymu stereoteipiau a hyrwyddo chwaraeon o’r fath i bawb.
Am gyflawniad gwych i Tianna ac am esiampl anhygoel yw hi. Mae’n glir bod ei chyfranogiad yn yr ysgol wedi dylanwadu ar y disgyblion ac wedi’u galluogi i sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl gyda gwaith caled; a hyd yn oed os nad yw’r llwybr rydych am ei ddilyn yn glir, mae modd i chi lunio eich llwybr eich hun.
Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Addysg a Phobl Ifanc
Lluniau: Tîm pêl-droed merched Blwyddyn 7 ac 8 gyda Tianna Teisar.