Ysgol Gyfun Cynffig yn derbyn gwobr aur am hyrwyddo’r iaith Gymraeg
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Tachwedd 2024
Mae Ysgol Gyfun Cynffig wedi cipio’r prif safle o fod yr ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg gyntaf yn y Fwrdeistref Sirol i dderbyn Gwobr Aur Siarter Iaith Cymraeg Campus sy’n hynod o werthfawr. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o ymdrechion rhagorol o ddilyn y Siarter Iaith Gymraeg - rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i dylunio’n i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
Yn cyfleu iaith gyfoethog a difyr sy’n mynd tu hwnt i’r dosbarth, mae’r amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg a gynigir gan yr ysgol yn unol â’i hethos, ‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’. Mynegodd yr arweinydd angerddol ar gyfer y fenter, Claire Arnold, athrawes Gymraeg, mai dyma’r elfen â’i hannogodd i gychwyn ei swydd yn 2021.
Dywedodd Claire: “Fel ysgol, rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, a hoffem chwarae rhan mewn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni eu nod o un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Mae system wobrwyo i’r ysgol gyfan yn ei lle sy’n sicrhau bod disgyblion yn cael canmoliaeth a chydnabyddiaeth am ddefnyddio’r Gymraeg ar draws yr ysgol, ac mae staff hefyd yn cael eu henwebu gan ddisgyblion am eu defnydd o’r Gymraeg! Mae'r Criw Cymraeg, y disgyblion sy’n arwain y cynllun yn ceisio hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd hwyliog a diddorol drwy ddetholiad o ddigwyddiadau neu weithgareddau, o roi anrhegion ar gyfer gweithredoedd caredig ar Ddydd Santes Dwynwen i drefnu helfeydd trysor yn y Gymraeg i gyd-ddisgyblion.
Ychwanegodd Claire: “Rydym yn cynnal teithiau i’r theatr i ddisgyblion gael profiad o sioeau yn yr iaith Gymraeg ac wedi cael ymwelwyr allanol yn cynnal gweithdai. Mae darparu’r cyfleoedd hyn yn dangos i’n disgyblion nad yw Cymraeg ar gyfer y dosbarth yn unig, ond yn iaith fyw i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd, boed yn gymdeithasol neu yn y gweithle.”
Yn ogystal ag agwedd sy’n cynnwys yr ysgol gyfan, mae’r fenter hon hefyd wedi’i thrwytho i mewn i’r gymuned leol. Cymerodd y Criw Cymraeg ran mewn cystadleuaeth Ffau’r Llewod a chael llwyddiant drwy sicrhau cyllid ar gyfer menter busnes, a dylunio pinnau ysgrifennu “Cynffig Chwech”, ac yn eu gwerthu nawr i staff, disgyblion, a rhieni/gofalwyr, drwy gyfrwng y Gymraeg - mae’r arian sy’n cael ei gasglu yn cael ei roddi i’r banc bwyd lleol yn y Pîl.
Mae preswylwyr oedrannus yn y Cartref Preswyl Lleol, Tŷ Gwyn, ym Mawdlam, hefyd yn elwa o ymdrechion creadigol y Criw Cymraeg. Bob blwyddyn, mae’r preswylwyr yn derbyn cardiau Nadolig a Phasg Cymraeg sydd wedi’u cynhyrchu gan y disgyblion, gan fagu perthnasoedd sy’n cael effaith gadarnhaol ar bawb sy’n rhan o’r fenter.
Dywedodd Nerys, Aelod o’r Criw Cymraeg: “Rwy’n falch o fod yn Gymraes ac yn mwynhau hyrwyddo gweithgareddau ar draws yr ysgol. Rwyf wrth fy modd yn gwneud pobl yn hapus i ddefnyddio’u Cymraeg drwy eu cynnwys yn y gweithgareddau rydym yn eu cynnal.”
I orffen, ychwanegodd Claire, Arweinydd y Gymraeg: “Rydym wrth ein bodd cael bod yr ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg gyntaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn y Wobr Aur. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gefnogaeth Pennaeth y Gymraeg, Leanne Geddes, holl staff yr ysgol, disgyblion, a phartneriaid allweddol, fel ein llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr.
“Rwy’n hynod o falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni yng Nghynffig hyd yn hyn. Mae’r Wobr Aur yn berchen i bawb sy’n rhan o Dîm Cynffig ac yn dangos beth ellir ei gyflawni, pan mae pawb, waeth beth yw eu swydd yn yr ysgol, yn cefnogi ei gilydd.”
Dywedodd y pennaeth, Hannah Castle: “Mae’r cyflawniad hwn yn destun balchder i’r ysgol. Trwy ymrwymiad a dull cydweithredol, rydym yn hybu’r iaith Gymraeg mewn ffordd unigryw. Diolch yn fawr i’n Criw Cymraeg ysbrydoledig.”
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid: “Am gyflawniad arbennig! Da iawn bawb yn Ysgol Gyfun Cynffig Mae’r ymrwymiad i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a welwyd gan y staff a’r disgyblion mor arbennig.
“Drwy weithio’n gydweithredol ar draws yr ysgol, rydych wedi llwyddo i amlygu bod y Gymraeg yn bwysig nid ar gyfer y dosbarth yn unig, ond i’w defnyddio i gyfathrebu yn fyd-eang. Rwyf mor falch eich bod wedi cael cydnabyddiaeth am drwytho’ch hunain yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru!”
Llun: Taith wobrwyol i’r Criw Cymraeg i Fae Caerdydd, gan gynnwys ymweliad â’r Senedd.