Ysgol Fusnes Rebel yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 10 Ionawr 2023
Mae ysgol fusnes sydd wedi ennill gwobrau yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddod â'u cwrs poblogaidd i egin berchnogion busnes ar draws y sir.
Bydd Ysgol Fusnes Rebel, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu eu cwrs poblogaidd yng Nghanolfan Fywyd Halo rhwng 20 - 24 Mawrth 2023.
Bydd y cwrs rhad ac am ddim yn cynorthwyo busnesau newydd lleol ledled y fwrdeistref sirol i gael eu syniadau ar waith a busnesau sy'n bodoli eisoes, i dyfu.
Dywedodd llefarydd ar ran Rebel Business School: "Ers 2011, mae ein cyrsiau wedi bod yn dangos ffordd newydd o feddwl a ffyrdd ymarferol o gael eich syniad busnes ar waith heb fynd i ddyled.
"Rydym wedi cynorthwyo dros 17,000 o bobl drwy ein cyrsiau drwy bartneriaethau gyda chymdeithasau tai lleol a chynghorau. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi profi'n barhaus bod cychwyn busnes wedi newid a bod angen ei ddysgu'n wahanol.
"P'un ai ydych ar ddechrau eich taith, yn fusnes sydd eisoes wedi ei sefydlu neu'n adeiladu eich menter ar yr ochr, bydd ein cwrs yn rhoi'r wybodaeth, yr ysbrydoliaeth a'r cyngor ymarferol sydd ei angen arnoch i gael eich syniad ar waith."
Mae pob diwrnod o'r cwrs yn cael ei gynnal rhwng 10am - 3pm ac yn mynd i'r afael â thestunau megis sut i ddechrau busnes yn rhad ac am ddim, gwerthiant a marchnata, sut i greu gwefan heb arian, dod o hyd i gwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol a chanllaw’r Rebel i stwff cyfreithiol.
Mae hwn yn gwrs rhad ac am ddim sy’n cynnig cyfle arbennig i egin entrepreneuriaid a pherchnogion busnes presennol i gael y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd ei angen arnynt i dyfu a ffynnu. Gyda chymaint o wybodaeth ar gael ynghylch dechrau busnes, gall lethu pobl sy’n ceisio gwireddu eu syniad busnes; mae’r cwrs hwn yn cynnig y gofal a’r arweiniad gorau sydd ar gael.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi breuddwydio am droi diddordeb yn fusnes, a’r rhai sydd wedi dechrau busnes ond angen ychydig o gymorth, i ddatblygu go iawn, i fanteisio ar y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.
Mae cymaint o fentrau sydd wedi elwa o fynd ar y cwrs hwn a byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un, waeth lle maent ar eu taith fusnes.
Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio
Gellir archebu lle am ddim ar y cwrs ar wefan Ysgol Fusnes Rebel.