Ymdrech gymunedol i godi arian i blant agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Ionawr 2023
Cydweithiodd disgyblion yn Ysgol Gyfun Brynteg gydag Eglwys y Tabernacl a busnesau ac elusennau lleol, i godi arian i brynu anrhegion i blant a phobl ifanc agored i niwed, a fyddai fel arall ddim wedi cael anrhegion Nadolig.
Mae Ysgol Gyfun Brynteg wedi cefnogi’r Apêl Siôn Corn ers sawl blwyddyn. Mae Rhys Fairchild, disgybl Blwyddyn 10 yn yr ysgol, yn esbonio’r cymhelliant y tu ôl i'w ymdrechion i godi arian: ”Rwy’n ffodus i gael anrhegion Nadolig, nid yw pawb mor ffodus. Roeddwn eisiau helpu eraill yn yr ardal leol, yn ogystal â helpu’r ysgol i gyrraedd ei tharged codi arian.
“Mae’r Apêl Siôn Corn wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o ba mor lwcus ydw i, a’r problemau sy’n wynebu pobl yn ein cymuned leol”.
Mae’n hyfryd i weld pobl yn dod at ei gilydd i gydweithio i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill mewn angen.
Mae gweithredoedd ystyriol y rhai sydd wedi bod yn codi arian at yr Apêl Siôn Corn wedi gwneud gwahaniaeth anferth i blant agored i niwed y Nadolig hwn.
Rydym mor falch o’r hyn y gellir ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd, ac wedi ein hysbrydoli.
Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i dynnu sylw at ddyngarwch y genhedlaeth iau, a’u gallu i gydymdeimlo ag eraill sy’n llai ffodus na nhw eu hunain.
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg