Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymchwil newydd yn amlygu traweffaith bositif gweithwyr cymdeithasol yn y broses faethu

Ar hyn o bryd mae yna 150 o gartrefi maethu (gan gynnwys gofal gan berthynas) o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; ac mae angen mwyn o ofalwyr maeth er mwyn sicrhau bod ein holl blant yn cael y gofal a'r gefnogaeth maent yn ei haeddu.

Ym mis Ionawr 2024, fe wnaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru, lansio ymgyrch i recriwtio 800 yn ychwanegol o deuluoedd maeth erbyn 2026. Ymunodd Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r ymgyrch, sy'n dwyn yr enw: 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth', er mwyn rhannu profiadau realistig o'r gymuned faethu ac i ymateb i rwystrau cyffredin i ymholiadau. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys diffyg hyder, cam-ganfyddiadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu yn gweddu i rai ffyrdd o fyw.

Mae cam ddiweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a'r 'swigen gefnogaeth' sy'n bodoli o amgylch darparwyr gofal maeth, i ddarparu gofalwyr posib gyda:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch rôl y gweithiwr cymdeithasol, a sut gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
  • Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy'n gweithio'n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth fel ei gilydd. 
  • Cymhelliant i ddechrau ar y broses o ddod yn ofalwr maeth yn eich awdurdod lleol.                                                                                                                           

Mewn arolwg YouGov diweddar, dim ond 44 y cant o ymatebwyr ddywedodd fod gwaith cymdeithasol yn uchel eu parch gyda bron i ddwy ran o bump (39 y cant) o oedolion gafodd eu holi yn teimlo bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol “yn aml yn cael pethau'n anghywir." Tra nad oes ond 11 y cant o weithwyr cymdeithasol cyfredol yn credu bod gwaith cymdeithasol yn uchel eu parch.

Meddai Kirsty, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol Pen-y-bont ar Ogwr: "Mae hi mor bwysig i ni gael perthynas dda gyda theuluoedd maeth, fel eu bod yn gallu teimlo eu bod yn gallu siarad â ni am unrhywbeth maent ei angen.

"Yn y rôl hon, rydych yn rhannu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r daith faethu gyda’ch gofalwyr, sy’n brofiad gwerth chweil (ac emosiynol ar adegau) ac un rwyf bob amser yn teimlo’n ffodus i fod yn rhan ohoni.

"Rwyf hefyd yn teimlo'n eithriadol o lwcus i weithio gyda chydweithwyr mor phobl mor gefnogol, cyfeillgar ac ymroddedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd yn hidio'n fawr am y teuluoedd maeth rydym ni'n gweithio gyda nhw."

Mae'r ymgyrch 'Gall pawb gynnig rhywbeth' ddiweddaraf yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ragdybiaethau a chymhelliant gweithwyr cymdeithasol. Roedd yna 309 o ymatebwyr ac roedd y prif ganfyddiadau yn cynnwys:

  • Dywedodd 78 y cant o'r gweithwyr cymdeithasol a holwyd eu bod wedi mynd i mewn i'r proffesiwn er mwyn cefnogi a helpu teuluoedd
  • Dywedodd 18 y cant o'r gofalwyr maeth bod canfyddiadau negyddol am weithwyr cymdeithasol yn bodoli oherwydd straeon newyddion
  • Dywedodd 29 y cant o'r gofalwyr maeth, cyn iddynt gwrdd â gweithiwr cymdeithasol, eu bod yn credu y byddent yn 'bobl gyda llwyth gwaith trwm a llawer o waith papur
  • Dywedodd 27 y cant o'r gweithwyr cymdeithasol a holwyd eu bod yn credu bod gofalwyr posib yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol

Yn yr ymchwil, tanlinellodd gofalwyr maeth bwysigrwydd perthynas waith agos a hirhoedlog er mwyn cefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roeddent hefyd yn awyddus i chwalu unrhyw fythau ynghylch gweithwyr cymdeithasol a'r gefnogaeth rydych chi'n ei dderbyn, gan dalu teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:

Rhannodd Sarah, Gofalwr Maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neges ar gyfer eu Gweithiwr Cymdeithasol, ac meddai: "Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol wedi bod gyda mi ers dechrau fy mhroses faethu.

"Mae hi wedi'n helpu a'n cefnogi ni llawer iawn pan aeth y plentyn cyntaf y gwnaethom ni ei faethu symud ymlaen i gael ei fabwysiadu. Fe wnaeth hi'n siŵr ein bod wedi cael ein cefnogi a bod gennym ni ddigon o amser i ddelio gyda'n hemosiynau.

"Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth ac am fod yno bob amser i fynd ar ôl pethau neu i ateb ein hymholiadau cyn gynted â phosib."

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant - y Cynghorydd Jane Gebbie: "Yn Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n galed er mwyn sicrhau bod ein holl ofalwyr maeth yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Gall gwaith cymdeithasol fod yn alwedigaeth heriol, fodd bynnag mae ein holl dimau o fewn Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gyson yn mynd y tu hwnt i'r disgwyliad, gan roi plant a theuluoedd yng wrth wraidd popeth maent yn ei wneud.

"Rwy'n llawn edmygedd ynghylch pa mor gydymdeimladol, ymroddgar a medrus nid yn unig yw ein gofalwyr maeth ond hefyd y timau sy'n gweithio gyda nhw a'u cefnogi yn ogystal.  Mae'n hollbwysig bod yr holl blant a phobl ifanc rydym ni'n gweithio gyda nhw yn gallu ffynnu, ac felly ein nod yw gwneud popeth posib i wneud hynny ddigwydd."

Am ragor o wybodaeth ynghylch maethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://bridgend.fosterwales.gov.wales/

Chwilio A i Y