Y cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau allweddol yn dilyn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024
Bydd ystod eang o brosiectau, gan gynnwys cynllun £95 miliwn ar gyfer adeiladu tair ysgol o'r newydd nawr yn symud ymlaen yn dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y Cyngor llawn.
Bydd Ysgol Heronsbridge, Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ac Ysgol Gymraeg Bro Ogwr oll yn derbyn ysgolion a fydd yn cael eu hadeiladu o’r newydd i gymryd lle’r rhai cyfredol fel rhan o Raglen Moderneiddio Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn cael ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, o dan amodau'r grant mae’n rhaid i’r cyngor wneud cyfraniad cyfalaf hefyd. Er mwyn i'r prosiectau ddatblygu, mae cyllid ychwanegol nawr wedi’i gymeradwyo o ganlyniad i gynnydd yng nghost gyffredinol y cynlluniau oherwydd ffactorau fel COVID-19, y rhyfel yn Wcráin, costau cynyddol yn y sector adeiladu a chynnydd mewn prisiau ynni.
Mae ychydig o dan £6.2 miliwn o gyllid cyfalaf cyngor ychwanegol wedi’i ddyrannu ar gyfer yr Ysgol Heronsbridge, £1.7 miliwn ar gyfer Mynydd Cynffig ac £800,000 ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.
Fel rhan o gynllun ar wahân, bydd Ysgol Gynradd Coety yn derbyn £330,000 ychwanegol fel rhan o gynlluniau i adeiladu estyniad pedair ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn helpu gyda’r galw am leoedd, o ystyried twf parhaus yr ardal leol o amgylch yr ysgol.
Ar ben y cyllid moderneiddio ysgolion, mae £1 miliwn wedi’i ychwanegu at gam nesaf adnewyddiadau ardaloedd chwarae plant, bydd £500,000 yn mynd tuag at y Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol, sy’n chwarae rhan allweddol yn y broses o alluogi grwpiau cymunedol i gymryd rheolaeth o gyfleusterau fel meysydd chwarae a chyrtiau tennis, a bydd y rhaglen adnewyddu priffyrdd yn elwa o £1 miliwn.
Mae’r Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi’n gyfrifol i wasanaethau lleol fel rhan o ddull hirdymor, sydd nid yn unig yn sicrhau y bydd trigolion presennol yn elwa, ond cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Rydym wedi gweithio gyda'r Rhaglen Gyfalaf mewn llawer o fanylder ac wedi asesu pa brosiectau sy’n realistig i ni eu darparu, ac sy’n flaenoriaeth strategol i ni fel cyngor.
Mae’r buddsoddiad moderneiddio ysgolion yn arbennig o foddhaus gan fod y prosiectau hyn yn dangos ein huchelgais i bobl ifanc gyflawni eu potensial ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n wych hefyd gweld ystod mor eang o brosiectau wedi’u rhestru ar y rhaglen, ac rwy’n edrych ymlaen at weld datblygiad y prosiectau hyn yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: