Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn rhoi cynlluniau ar waith i gefnogi plant ar eu pennau eu hunain sy’n geiswyr lloches

Mae cynlluniau i ddarparu gofal a llety â chymorth ar gyfer plant sy’n ceisio lloches ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi symud gam ymlaen. 

Mae cabinet y cyngor wedi cymeradwyo’r addasiadau perthnasol i gontract presennol gyda’r darparwr llety â chymorth, Dewis Ltd. 

Fel rhan o'r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol mandadol, mae’r Swyddfa Gartref yn gweithredu rota, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ym mhob rhanbarth ‘gymryd eu tro’ i dderbyn plant i’w gofal. 

Cynghorodd y Swyddfa Gartref yn flaenorol fod gan ranbarth Cwm Taf Morgannwg uchafswm dyraniad o 91 o blant ar eu pennau eu hunain, sy’n cyfateb i gyfanswm cyffredinol o 29 o blant ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr.

Hyd yma, mae’r cyngor wedi lleoli chwech o blant yn llwyddiannus drwy ddefnyddio ein llety â chymorth ac asiantaethau maeth annibynnol. Fodd bynnag, mae lleoliadau yn yr amgylcheddau hyn yn gyfyngedig iawn.

Mae angen rhoi dau blentyn arall yng ngofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y misoedd nesaf. Mae disgwyl iddynt gyrraedd rhwng Ionawr a Mawrth 2023. Nid yw hyd y lleoliadau gorfodol yn hysbys ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar, mae landlord tai cymdeithasol cofrestredig wedi cynnig eiddo tair ystafell wely i’r cyngor, yr ystyrir ei fod yn addas iawn ar gyfer pobl ifanc. Mae'r gwasanaeth yn gofyn am sefydlu tîm cymorth yn y cartref ar adegau priodol yn ystod y dydd i gefnogi pobl ifanc yn unol â’u hanghenion penodol.

Nid yw’r contract llety â chymorth presennol sydd ar waith gyda Dewis ond yn caniatáu newid o 10% o ran gwerth y contract, ond i fodloni gofynion y cynllun gorfodol hwn mae angen newid o 36%.

Bydd cymeradwyaeth y cabinet nawr yn caniatáu i'r newid hwn gael ei roi ar waith.

 

Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod plant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches yn cael y gefnogaeth maen nhw ei angen ac yn ei haeddu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yr addasiadau cytundebol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y plant yn cael cefnogaeth sy’n bodloni eu hanghenion unigol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y